Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Fantastic Racket

Fantastic Racket

13 Hydref 2024

Arddangosiad o leisiau eiconig (ac eiconoclastig) o'r byd cerddoriaeth, llyfrau, celf a thu hwnt.

I gloi Llais, rydyn ni wedi cynnull corwynt untro (na fydd yn digwydd eto) o leisiau ffyrnig a ffantastig.  

Cyfres o berfformiadau unigryw yw Mwstwr y Meistri, gan gasgliad rhyfeddol o awduron clodwiw, cerddorion o frig y siartiau, pencampwyr cwlt, sêr y cyfryngau cymdeithasol, sbardunwyr celfyddydol, sêr hip-hop, trwbadwriaid barddonol, a’r bydoedd chwilfrydig rhyngddyn nhw i gyd.  

Yn strytio, yn swagro, yn waltsio, yn llithro, yn prancio, yn tapio, yn hyrddio, neu’n chwyrlio i’r llwyfan bydd: Lady Leshurr, Sara Pascoe, Irvine Welsh, Charlotte Church + Le Gateau Chocolat, Hollie McNish, Nadine Shah a Callum Easter, Emma Dabiri, Jackie Kay, Joelle Taylor a Russell Tovey, Carys Eleri, a Norman Blake (Teenage Fanclub) – a bydd ffilmiau byrion hefyd gan David Shrigley, gyda Michael Pedersen yn cyflwyno/rhannu geiriau.  

Ydy, mae’r llewyrch fydd yn llifo ar y llwyfan bron yn drachwantus. Dychmygwch gala ddisglair wedi’i chyfuno â sioe amrywiaeth anarferol. Siambr sain avant-garde gyda ceilidh gwymon trydanol. Jiwcbocs llenyddol gyda thwrw cerddorol. Gan roi’r labeli o’r neilltu, bydd hi’n sicr yn noson o wefr di-baid. 

Ydyn, rydyn ni wrthi’n ceisio dychmygu sut mae gwasgu hyn i gyd i un sioe enfawr.   

Mae’n siŵr bydd gwestai arbennig yn ychwanegol i’r rhestr rhyfygus yma hefyd.  

...beth yw’r gair am fwy nag un eicon?  

Mae’r noson wedi’i churadu gan y gwestai Michael Pedersen, gyda chymorth gan Hollie McNish. 

Amser dechrau: 7.00pm

Hyd y perfformiad: 3 awr a 30 minud (cynnwys 2 egwyl)

Oed: Pob oed. Nodwch fod rhaid i bobl o dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu hŷn.

O dan 30

Gostyngiad o £5

Cynnig tocynnau

Prynwch docynnau ar gyfer 2 ddigwyddiad Llais i arbed 10%.

Prynwch docynnau ar gyfer 3 digwyddiad Llais i arbed 15%.

I fanteisio ar y cynnig ar-lein, rhaid i nifer y tocynnau ar gyfer pob digwyddiad fod yr un peth. Caiff y cynnig ei ychwanegu at eich basged. Nid yw’r cynnig yma yn cynnwys y Wobr Gerddoriaeth Gymreig, Lock Off, Street Art Operas na Colored: The Unsung Life of Claudette Colvin.

Mae pob cynnig yn amodol ar ddyraniadau ac argaeledd.