Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Ganavya

Ganavya

12 Hydref 2024

Aml-offerynnydd ac ysgolhaig gafodd ei geni yn Efrog Newydd, ei magu yn Ne India ac sy’n byw yng Nghaliffornia yw ganavya. Mae’n asio jazz ysbrydol a cherddoriaeth glasurol o dde Asia gyda gweadau atmosfferig i greu profiad arallfydol, trosgynnol.

Mae wedi cydweithio â phobl fel Quincy Jones a’r basydd a’r cyfansoddwr Esperanza Spalding, a’r llynedd ymddangosodd fel lleisydd gwadd ym mherfformiad cyntaf amlwg iawn y gasgleb enaid enigmatig Sault.

Mae ei halbwm diweddaraf, 'like the sky I’ve been too quiet' a ryddhawyd ym mis Mawrth 2024, yn gasgliad byrfyfyr i raddau helaeth o gerddoriaeth a recordiwyd dros dri diwrnod yn Llundain ym mis Ionawr 2023, gyda’r artist jazz Shabaka Hutchings yn cynhyrchu. Mae’n cynnwys cyfraniadau gan rai o’r cerddorion jazz cyfoes gorau, gyda’r cynhyrchydd Floating Points a’r aml-offerynnwr Leafcutter John yn cyfrannu haenau electronig iasol drwy gydol yr albwm.

Gyda’i dawn leisiol eithriadol, mae ganavya wedi’i disgrifio fel cantores sydd 'ymhlith cantorion mwyaf grymus cerddoriaeth fodern' (Wall Street Journal) a chafodd pob tocyn i’w sioeau diweddaraf yn Llundain eu gwerthu o fewn munudau.

MWY GAN GANAVYA

Amser dechrau: 9pm

Hyd y perfformiad: 1 awr

Oed: Pob oed. Nodwch fod rhaid i bobl o dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu hŷn.

O dan 30

Gostyngiad o £5
Cynnig tocynnau

Prynwch docynnau ar gyfer 2 ddigwyddiad Llais i arbed 10%.

Prynwch docynnau ar gyfer 3 digwyddiad Llais i arbed 15%.

I fanteisio ar y cynnig ar-lein, rhaid i nifer y tocynnau ar gyfer pob digwyddiad fod yr un peth. Caiff y cynnig ei ychwanegu at eich basged. Nid yw’r cynnig yma yn cynnwys y Wobr Gerddoriaeth Gymreig, Lock Off, Street Art Operas na Colored: The Unsung Life of Claudette Colvin.

Mae pob cynnig yn amodol ar ddyraniadau ac argaeledd.