Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Georgia Ruth

Georgia Ruth

10 Hydref 2024

Yn gerddor o Aberystwyth, mae Georgia Ruth wedi hen arfer gweu ei dylanwadau gwerinol i greu seinweddau unigryw. Enillodd ei halbwm cyntaf, 'Week of Pines', y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2013, yn ogystal â chyrraedd dwy o restrau fer Gwobrau Gwerin BBC 2

Wedi iddi gydweithio â'r Manic Street Preachers, aeth Georgia ymlaen i ryddhau ei hail a'i thrydydd albwm, 'Fossil Scale' a 'Mai', cyn rhyddhau dwy EP ychwanegol.  
   
'Cool Head' yw pedwerydd albwm Georgia, ac mae'n cyfleu'r hyn a disgrifia Georgia fel "taith hir drwy’r nos i’r bore". Mae 'Cool Head', ymadrodd byddai ei thad yn ei ddweud yn aml, yn gasgliad didwyll o ganeuon sy'n plethu dylanwadau sy'n ymestyn o Americana i faledi nodedig y 60au.   
 
Wedi’i recordio yn stiwdio Sain, mae’r albwm yn cynnwys cyfraniadau gan Iwan Huws (Cowbois Rhos Botwnnog), Stephen Black (Sweet Baboo), Gwion Llewelyn (Aldous Harding), a Rhodri Brooks (Melin Melyn). Mae hefyd yn gweld llais unigryw Euros Childs (Gorky's Zygotic Mynci) yn ymddangos ar ambell i drac yn ogystal â threfniadau llinynnol Gruff Ab Arwel.

Yn y sioe untro yma, bydd Georgia’n chwarae’r albwm lawn gyda’r band stiwdio gwreiddiol, gan gynnwys yr offerynwyr llinynnol – a rhai gwesteion arbennig – er mwyn dod ag awyrgylch y record arbennig yma i Llais.

Mwy gan Georgia Ruth

Amser dechrau: 7pm

Hyd y perfformiad: 1 awr a 30 minud

Oed: Pob oed. Nodwch fod rhaid i bobl o dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu hŷn.

O dan 30

Gostyngiad o £5

Cynnig tocynnau

Prynwch docynnau ar gyfer 2 ddigwyddiad Llais i arbed 10%.

Prynwch docynnau ar gyfer 3 digwyddiad Llais i arbed 15%.

I fanteisio ar y cynnig ar-lein, rhaid i nifer y tocynnau ar gyfer pob digwyddiad fod yr un peth. Caiff y cynnig ei ychwanegu at eich basged. Nid yw’r cynnig yma yn cynnwys y Wobr Gerddoriaeth Gymreig, Lock Off, Street Art Operas na Colored: The Unsung Life of Claudette Colvin.

Mae pob cynnig yn amodol ar ddyraniadau ac argaeledd.