Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Gina Williams a Guy Ghouse

Gina Williams a Guy Ghouse

10 Hydref 2024

Mae Gina Williams and Guy Ghouse yn dod â thro newydd a modern i draddodiadau hynafol; gan uno synau atgofus, offerynnau acwstig naturiol a straeon ingol gyda llais hardd anhygoel. 

Gitâr meistrolgar a lleisiau gwynias. Mae’r perfformwyr rhagorol yma’n cysylltu ac yn swyno cynulleidfaoedd ledled y byd drwy bŵer cân. Mae’n fwy arbennig fyth pan fydd yn cael ei chanu yn iaith leiafrifol Noongareg.

Yn ôl cofnodion swyddogol, mae Noongareg mewn perygl difrifol, gyda llai na 400 o siaradwyr ar ôl. Mae’n well gan Gina a Guy alw’r iaith brin yn “Argraffiad Arbennig” ac maen nhw ar ymgyrch i geisio cyrraedd cymaint o bobl â phosib i rannu’r iaith a diogelu ei dyfodol ar gyfer cenedlaethau i ddod.

Yn ogystal â phedair albwm, maen nhw wedi rhyddhau tri darn o waith nodedig; Koort ar gyfer Gŵyl Perth, Koorlangka: Reimagined ar gyfer Gŵyl Cabare Ryngwladol Perth, a Koolbardi wer Wardong ar gyfer tymor a werthodd bob tocyn i Opera Gorllewin Awstralia.  Perfformion nhw eu gwaith mawr diweddaraf, Wundig wer Wilura, a gomisiynwyd gan Opera Gorllewin Awstralia, am y tro cyntaf eleni a chael canmoliaeth feirniadol.

Mae Gina a Guy wedi cael eu disgrifio fel artistiaid syfrdanol, y mae eu cerddoriaeth yn ddathliad o fywyd, cymuned a chyd-ddynoliaeth. Maen nhw wrth eu boddau yn cael dychwelyd i Gaerdydd, lle cafodd Gina ei hysbrydoli’n wreiddiol i droi at gerddoriaeth fel llwybr i adfywio iaith. Gan berfformio gyda bendithion hollbwysig henuriaid Gina a’i chymuned, bydd y ddeuawd yma’n mynd â’ch gwynt!

MWY GAN GINA WILLIAMS AND GUY GHOUSE

Amser dechrau: 8.45pm

Hyd y perfformiad: 1 awr 15 munud

Oed: Pob oed. Nodwch fod rhaid i bobl o dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu hŷn.

O dan 30

Gostyngiad o £5

Cynnig tocynnau

Prynwch docynnau ar gyfer 2 ddigwyddiad Llais i arbed 10%.

Prynwch docynnau ar gyfer 3 digwyddiad Llais i arbed 15%.

I fanteisio ar y cynnig ar-lein, rhaid i nifer y tocynnau ar gyfer pob digwyddiad fod yr un peth. Caiff y cynnig ei ychwanegu at eich basged. Nid yw’r cynnig yma yn cynnwys y Wobr Gerddoriaeth Gymreig, Lock Off, Street Art Operas na Colored: The Unsung Life of Claudette Colvin.

Mae pob cynnig yn amodol ar ddyraniadau ac argaeledd.