Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Gwen Siôn: Llwch a Llechi

Gwen Siôn: Llwch a Llechi

13 Hydref 2024

Prosiect clyweledol byw sy’n archwilio’r cysylltiadau rhwng cerddoriaeth, tirwedd, traddodiad a defod yw Llwch a Llechi gan y cyfansoddwr a’r artist amlddisgyblaethol Gwen Siôn, sy’n cael ei ddangos am y tro cyntaf yn Llais 2024.

Bydd Llwch a Llechi yn cael ei berfformio gan ensemble o ddeg cerddor cerddorfaol, Côr y Penrhyn sef un o gorau hyna’r wlad (a ffurfiwyd yn wreiddiol fel côr chwarelwyr yn Chwarel y Penrhyn ger Bethesda), a Gwen yn defnyddio electroneg fyw, gan gynnwys offerynnau wedi’u creu â’i llaw ei hunan o ddeunyddiau naturiol wedi'u hailgylchu (llechi a choed yw a derw). Mae’r prosiect yn cyfuno elfennau o gerddoriaeth electronig arbrofol, cyfansoddiadau cerddorfaol cyfoes, cyfansoddiadau corawl (o dan ddylanwad traddodiad corau chwarelwyr dosbarth gweithiol y gogledd), recordiadau maes a delweddau symudol i greu perfformiad byw unigryw a deniadol.

Mae Llwch a Llechi yn dwyn ysbrydoliaeth o fotiffau llên gwerin, hanesion cymdeithasol-wleidyddol, treftadaeth ddiwydiannol a’r berthynas ddiwylliannol rhwng cerddoriaeth a thirwedd, a’i gwreiddiau dyfnach yn nhraddodiad llafar Celtaidd Cymru. Mae'r prosiect yn ceisio ail-gyd-destunoli traddodiad drwy lens gyfoes gan ddefnyddio cerddoriaeth electronig arbrofol a thechnegau cyfansoddi cyfoes. Mae’n cyfosod yr hen a’r newydd, er mwyn chwilio am ffyrdd o warchod arferion diwylliannol drwy ganfod dulliau newydd o fynegi, a’u cyflwyno mewn gofodau lle nad ydyn nhw wedi bod yn draddodiadol.

Mae arferion cerddoriaeth arbrofol a sain cyfoes yn aml yn bodoli mewn clybiau nos ac orielau fel rhan o sîn gelf a cherddoriaeth danddaearol; y gweithle oedd gofod traddodiadol y corau chwarelwyr gwreiddiol, oedd yn canu’n ddigyfeiliant ac yn teimlo fel petaent wedi’u gwreiddio yn y traddodiad gwerin; yn hanesyddol, mae cerddoriaeth gerddorfaol fyw yn perthyn i fannau mwy elitaidd sy’n anoddach eu cyrraedd ar gyfer cymunedau gwledig dosbarth gweithiol. Mae’r prosiect yma’n plethu’r cyfoeth yma o linynnau i greu asiad newydd cyffrous.

Mae Llwch a Llechi wedi'i gefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Sefydliad PRS, Sound UK, Tŷ Cerdd a Sound and Music.

MWY GAN GWEN SIÔN

Amser dechrau: 3.30pm

Hyd y perfformiad: 90 munud

Oed: Pob oed. Nodwch fod rhaid i bobl o dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu hŷn.

Seddi heb eu cadw ar lwyfan y Stiwdio Weston.

O dan 30 

Gostyngiad o £5

Cynnig tocynnau

Prynwch docynnau ar gyfer 2 ddigwyddiad Llais i arbed 10%.

Prynwch docynnau ar gyfer 3 digwyddiad Llais i arbed 15%.

I fanteisio ar y cynnig ar-lein, rhaid i nifer y tocynnau ar gyfer pob digwyddiad fod yr un peth. Caiff y cynnig ei ychwanegu at eich basged. Nid yw’r cynnig yma yn cynnwys y Wobr Gerddoriaeth Gymreig, Lock Off, Street Art Operas na Colored: The Unsung Life of Claudette Colvin

Mae pob cynnig yn amodol ar ddyraniadau ac argaeledd.