Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
If I Could Only Remember My Name - Cerddoriaeth David Crosby

If I Could Only Remember My Name - Cerddoriaeth David Crosby

11 Hydref 2024

Noson i ddathlu athrylith gerddorol y cyfansoddwr a’r Americanwr, David Crosby, cyn aelod o The Byrds a Crosby, Stills, Nash & Young, a fu farw y llynedd. Gyda Mike Scott (The Waterboys), Liam Ó Maonlaí (Hothouse Flowers), Kris Drever (Lau), The Staves + Zervas & Pepper.

Bydd artistiaid fel Mike Scott, Liam O’Maonlai, Kris Drever, The Staves a Zervas & Pepper yn dod at ei gilydd ar gyfer y perfformiad byw cyntaf erioed o albwm unigol hudol ac arloesol David Crosby o 1971, If I Could Only Remember My Name, yn ogystal â detholiad o’i gerddoriaeth gyda The Byrds a Crosby, Stills, Nash & Young.

Er mai derbyniad cymysg gafodd yr albwm ar adeg ei rhyddhau, mae hi bellach yn glasur gwltaidd ymhlith chwaethwyr cerddorol. Cafodd y recordiad gwerin seicedelig If I Could Only Remember My Name ei recordio ar adeg pan oedd Crosby’n profi heriau personol, a daeth â chriw o sêr at ei gilydd, yn gyfeillion ac yn gyfoedion, gan gynnwys Joni Mitchell, Gerry Garcia a Neil Young, sy’n canu harmonïau ac yn chwarae gitâr ar y traciau.

Amser dechrau: 7pm

Hyd y perfformiad: 1 awr 30 munud

Oed: Pob oed. Nodwch fod rhaid i bobl o dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu hŷn.

O dan 30

Gostyngiad o £5

Cynnig tocynnau

Prynwch docynnau ar gyfer 2 ddigwyddiad Llais i arbed 10%.

Prynwch docynnau ar gyfer 3 digwyddiad Llais i arbed 15%.

I fanteisio ar y cynnig ar-lein, rhaid i nifer y tocynnau ar gyfer pob digwyddiad fod yr un peth. Caiff y cynnig ei ychwanegu at eich basged. Nid yw’r cynnig yma yn cynnwys y Wobr Gerddoriaeth Gymreig, Lock Off, Street Art Operas na Colored: The Unsung Life of Claudette Colvin.

Mae pob cynnig yn amodol ar ddyraniadau ac argaeledd.