Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Joe Boyd

Joe Boyd

12 Hydref 2024

Ymunwch â ni yn Theatr Donald Gordon mewn sgwrs am ddim gyda’r cynhyrchydd chwedlonol a’r pennaeth label recordiau, Joe Boyd, sydd wedi treulio’i oes yn teithio ledled y byd yn ymgolli mewn cerddoriaeth.

Mae wedi gweld gyda’i lygaid ei hunan boblogrwydd cynyddol cerddoriaeth o Affrica, India, America Ladin, y Caribî a Dwyrain Ewrop ers y chwedegau, ac roedd yn un o brif aelodau mudiad ‘cerddoriaeth y byd’ yn yr wythdegau.  

Yn ei lyfr And The Roots of Rhythm Remain, aeth Boyd ati i archwilio hanesion diddorol y synau hyn, ac mae’n dogfennu degawd o gyfarfyddiadau gyda cherddorion a chynhyrchwyr eithriadol sydd wedi newid cyfeiriad cerddoriaeth i ni gyd.  

Mae And The Roots of Rhythm Remain yn dangos sut mae unigolion, digwyddiadau a gwleidyddiaeth mewn llefydd fel Havana, Lagos, Bwdapest, Kingston a Rio yr un mor lliwgar a nodedig â’r hyn ddigwyddodd yn New Orleans, Harlem, Laurel Canyon neu Lerpwl. Ac, at hynny, mae’n dangos na fyddai jazz, rhythm a’r blŵs, na roc a rôl erioed wedi digwydd oni bai am y nodau a’r rhythmau a ymddangosodd o’r tu draw i’r gorwel.  

‘Mae’n rhodd i’r byd. Bydd yn sioc i’r meddwl a’r seinyddion.’ Cerys Matthews 

‘Dw i’n amau na wna i byth ddarllen cyfrif gwell o hanes a chymdeithaseg cerddoriaeth boblogaidd na’r un yma.’ Brian Eno 

Gwrandewch ar restr chwarae And The Roots of Rhythm Remain ar Spotify ac Apple Music

Cynhyrchydd ac awdur yw Joe Boyd, sy’n adnabyddus am ei gofiant, White Bicycles: Making Music in the 1960s. Ymhlith yr artistiaid y mae wedi cynhyrchu eu gwaith mae Pink Floyd, Nick Drake, R.E.M., Fairport Convention, ¡Cubanismo!, Toots and the Maytals, Toumani Diabaté a Taj Mahal, yn ogystal â sawl un arall yn ystod ei yrfa o bron i drigain mlynedd. Fel cynhyrchydd ffilm, mae ei waith yn cynnwys y ffilm ddogfen am Aretha Franklin, Amazing Grace, Scandal, a Jimi Hendrix. 

Amser dechrau: 1pm

Hyd y perfformiad:  1 awr

Oed: Pob oed. Nodwch fod rhaid i bobl o dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu hŷn.

Mae'r digwyddiad yma am ddim ond mae angen tocyn.