Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Porridge Radio

Porridge Radio

11 Hydref 2024

Mae Porridge Radio yn un o leisiau newydd mwyaf hanfodol y sîn amgen, ar ôl esgyn o fod yn anwyliaid DIY tanddaearol i fod yn un o fandiau mwyaf cyffrous Prydain mewn llai na blwyddyn.

Mae eu ffraethineb pigog, eu dwyster ciaidd, a’u cyfuniad cryf o synau roc-celf, pop-indi ac ôl-pync yn creu sain cwbl unigryw, a arweiniodd at enwebu eu halbwm Every Bad yn 2020 ar gyfer Gwobr Gerddoriaeth Mercury. 

I’r canwr Dana Margolin, y drymiwr Sam Yardley, yr allweddellwr Georgie Stott a’r basydd Maddie Ryall – a gwrddodd yn nhre glan môr Brighton a ffurfio Porridge Radio yn 2014 – mawr fu’r aros am gydnabyddiaeth fyd-eang, ar ôl blynyddoedd o ryddhau eu cerddoriaeth a threfnu eu teithiau eu hunain.  Dros yr wyth mlynedd hynny, mae Dana wedi dod i gael ei hadnabod am ei phresenoldeb magnetig fel cantores y band, gyda’r gallu “i’ch dinistrio gyda chorwynt emosiynol, ac yna’ch dallu gydag eiliad o hiwmor chwerwfelys” (NME). 

Ond os cafodd gonestrwydd miniog ffwrdd-â-hi Dana ei sefydlu yn Every Bad, mae trydedd albwm Porridge Radio yn mynd â hynny i uchelfannau anthemaidd newydd. Mae Waterslide, Diving Board, Ladder To The Sky yn cyfleu profiad rhywun ar ddiwedd eu hugeiniau sy’n herio siomedigaeth cariad, a bywyd, ac yn dysgu sut i fodoli yn y byd, heb fynnu atebion. Mae’r record hefyd yn fachog tu hwnt. 
Mae’r teitl – a gafodd ei ysbrydoli’n rhannol gan ddarn o gelf clytwaith gan y swrealydd Eileen Agar – yn cyfeirio at “lawenydd, ofn, a theimlad di-ddiwedd” y blynyddoedd diwethaf. Mae cyfansoddi a chyflwyniad Dana’n fwy hyderus, gyda miniogrwydd emosiynol sy’n dwyn i gof artistiaid fel Mitski, Sharon Van Etten a Big Thief. Er ei bod yn fwy meddal a chwareus mewn mannau na ffyrnigrwydd tanbaid Every Bad, mae yna eiliadau o gatharsis pwerus, rhai sy’n digwydd pan fyddwch chi’n caniatáu i ddwysedd llawn y profiad gydio. 

Mewn mannau, mae’r rhyddid cignoeth yn debyg i fandiau fel Deftones (mae eu metel panoramig yn garreg gyffwrdd allweddol i Waterslide, Diving Board, Ladder To The Sky) neu emo Americanaidd, wedi’i ddyrchafu gan offeryniaeth fentrus Yardley.  “Ro’n i’n dweud o hyd fy mod i am i bopeth fod yn ‘epig ar gyfer stadiwm’ - yn debyg i Coldplay,” meddai Dana. 

Gyda Waterslide, Diving Board, Ladder To The Sky, mae Porridge Radio wedi distyllu eu dylanwadau niferus i greu eu cymysgedd eu hunain: yn freuddwydiol ond yn ddwys, yn dyner ond yn finiog, yn eang ond yn gwbl agos-atoch-chi. Mae pobl yn dweud wrth Dana bod Every Bad wedi eu helpu drwy ddiagnosis canser, torcalon, a’u cyfnod clo unig. Ond gyda’u halbwm newydd, mae’r band yn camu ymlaen ac yn sbring-fyrddio i’r anwybod disglair a chyffrous. 

May gan Porridge Radio

Amser dechrau: 7pm

Hyd y perfformiad: 1 awr a 15 minud

Oed: Pob oed. Nodwch fod rhaid i bobl o dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu hŷn.

O dan 30

Gostyngiad o £5

Cynnig tocynnau

Prynwch docynnau ar gyfer 2 ddigwyddiad Llais i arbed 10%.

Prynwch docynnau ar gyfer 3 digwyddiad Llais i arbed 15%.

I fanteisio ar y cynnig ar-lein, rhaid i nifer y tocynnau ar gyfer pob digwyddiad fod yr un peth. Caiff y cynnig ei ychwanegu at eich basged. Nid yw’r cynnig yma yn cynnwys y Wobr Gerddoriaeth Gymreig, Lock Off, Street Art Operas na Colored: The Unsung Life of Claudette Colvin.

Mae pob cynnig yn amodol ar ddyraniadau ac argaeledd.