Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Sahra Halgan

Sahra Halgan

13 Hydref 2024

Daw'r artist Sahra Halgan o Somaliland, gwlad yng Nghorn Affrica sydd wedi bod yn annibynnol ers 1991, ond sydd heb ei chydnabod hyd yma gan y gymuned ryngwladol.

Nyrs oedd hi’n wreiddiol, ac enillodd yr enw 'Halgan' – Yr Ymladdwr – yn yr wythdegau pan fuodd hi’n rhan o'r rhyfel ofnadwy yn erbyn yr unbennaeth. Caiff ei hedmygu am hynny – ond ei cherddoriaeth sydd wedi ei gwneud yn eicon. Dyma gerddoriaeth ddyrchafol sydd hefyd yn addolgar, ac sy’n llawn enaid a dewrder a chariad. Mae ei cherddoriaeth yn crisialu gobaith a chryfder ei chymuned ac mae wedi gwreiddio’n ddwfn yng nghalon Somaliland.

Ar ôl cael ei halltudio i Ffrainc, sefydlodd ei grŵp yn Lyon gydag Aymeric Krol, Maël Salètes a Régis Monte. Cafodd yr egwyddorion y tu ôl i'r gerddoriaeth eu gwireddu drwy’r ensemble, gan eu galluogi i symud pobl drwy eu cyrff – mewn geiriau eraill, cerddoriaeth i ddawnsio iddi yw hon, gyda thinc o afrobeat, tuareg ac ethio-jazz. Mae ei thrydydd albwm yn ffrwyth ymdrech i ddyrchafu’r llais pwysig yma, ehangu ei dirwedd sonig a’i rannu â chynulleidfa ehangach. Ei enw ‘Hiddo Dhawr’ (‘Cadw Diwylliant’), a dyna hefyd yw enw’r ganolfan ddiwylliannol a sefydlwyd ganddi yn Hargeisa yn 2013.

MWY GAN SAHRA HALGAN

Amser dechrau: 7.45pm

Hyd y perfformiad: 90 munud

Oed: Pob oed. Nodwch fod rhaid i bobl o dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu hŷn.

O dan 30

Gostyngiad o £5

Cynnig tocynnau

Prynwch docynnau ar gyfer 2 ddigwyddiad Llais i arbed 10%.

Prynwch docynnau ar gyfer 3 digwyddiad Llais i arbed 15%.

I fanteisio ar y cynnig ar-lein, rhaid i nifer y tocynnau ar gyfer pob digwyddiad fod yr un peth. Caiff y cynnig ei ychwanegu at eich basged. Nid yw’r cynnig yma yn cynnwys y Wobr Gerddoriaeth Gymreig, Lock Off, Street Art Operas na Colored: The Unsung Life of Claudette Colvin.

Mae pob cynnig yn amodol ar ddyraniadau ac argaeledd.