Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Squid · GEORDIE GREEP

Squid · GEORDIE GREEP

10 Hydref 2024

Mae ail albwm Squid , O Monolith, yn gyffrous o gymhleth, yn hynod amrywiol, ac yn annisgwyl o atgofus; gan gymysgu gwaith cyfansoddi avant-garde ac arloesol gyda’u dawn am lunio grŵfs hudolus a tharo ergyd.  

Yn dilyn eu halbwm gyntaf lwyddiannus yn 2021, Bright Green Field, a gyrhaeddodd rif 4 yn siart albymau gwledydd Prydain, mae O Monolith yn ddwys ac yn ddireidus – ond hefyd yn wresog ac yn llawn cymeriad, gyda natur droellog a chwilfrydig. Yn gyforiog o ddatguddiadau melodig a synau haenog, mae’r albwm yn cyfleu amgylchedd, domestigrwydd a llên gwerin cerddorol. Mae’r record yn trafod pryderon modern a dyfodol drwgargoelus ac yn eu cyfleu drwy lens amlwg Seisnig.

Mae O Monolith yn cadw ysbryd aflonydd ac enigmatig Squid, ond mae’n dal i gynnig rhywbeth annisgwyl i’r rhai sy’n gyfarwydd â Bright Green Field. Mae’n adlewyrchiad o ddatblygiad enfawr band sydd bob amser yn edrych tua’r dyfodol. Yn eang ac yn rhyfedd; yn fyw o ddeongliadau diddiwedd o’i ddirgelion mewnol.

GEORDIE GREEP

Mae Geordie Greep yn enw cyfarwydd i Llais, ar ôl perfformio yn yr ŵyl yn 2022 gyda set fythgofiadwy gyda’i fand black midi. Y tro yma mae’n dychwelyd gyda phrosiect unigol newydd dirgelaidd, ac os yw’n rhywbeth tebyg i Black Midi, cofiwch ddisgwyl yr annisgwyl.

Amseroedd:
Geordie Greep - 8pm
Squid - 9.30pm

Gall amseroedd setiau newid.

Oed: Pob oed. Nodwch fod rhaid i bobl o dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu hŷn.

O dan 30

Gostyngiad o £5

Cynnig tocynnau

Prynwch docynnau ar gyfer 2 ddigwyddiad Llais i arbed 10%.

Prynwch docynnau ar gyfer 3 digwyddiad Llais i arbed 15%.

I fanteisio ar y cynnig ar-lein, rhaid i nifer y tocynnau ar gyfer pob digwyddiad fod yr un peth. Caiff y cynnig ei ychwanegu at eich basged. Nid yw’r cynnig yma yn cynnwys y Wobr Gerddoriaeth Gymreig, Lock Off, Street Art Operas na Colored: The Unsung Life of Claudette Colvin.

Mae pob cynnig yn amodol ar ddyraniadau ac argaeledd.