Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Street Art Operas

Street Art Operas

10 – 13 Hydref 2024

Mae Opera Celf Stryd yn ffordd newydd o brofi opera fel ffurf berthnasol, hygyrch a chyffrous.

Crëwyd i gael ei daflunio ar wal, gan ddefnyddio effaith a iaith Celfyddyd Stryd ond wedi’i hanimeiddio fel adrodd straeon operatig a’i wrando ar glustffonau disco distaw. Dychmygwch Banksy yn dod yn fyw ac yn canu! 

Fel pob Celfyddyd Stryd, bydd y dau ddarn newydd hyn yn adrodd straeon sy’n ymwneud â’r PRESENNOL, gyda negeseuon cymdeithasol a phersonol cryf - sut i ddarganfod a rhyddhau eich creadigrwydd eich hun i fynegi eich hun yn llawn; ac adlewyrchiad ar yr argyfwng hinsawdd rydym wedi’i greu a sut y gallai natur ddod o hyd i ffordd i ymdopi. 

Mae’r Timau Creadigol Cymreig yn cynnwys y cerddor Eädyth a’r cyfansoddwraig Claire Victoria Roberts yn gweithio mewn cydweithrediad ag artistiaid stryd ac animeiddwyr, ysgrifenwyr, perfformwyr corfforol a gwneuthurwyr ffilm. 

Bydd pob darn yn para tua 10 munud ac yn cynnwys testun yn Gymraeg a Saesneg - ac Urdu - fel rhan o'r iaith weledol gyfoethog. 

Rahmat-Mercy-Trugaredd

Gan Unity, Eädyth, Sam Hussain a Jamie TC Panton 

Wedi’i ysbrydoli gan Suffistiaeth a diwylliant hip-hop, mae Rahmat-Mercy-Trugaredd yn datgelu sut y gellir harneisio creadigrwydd fel ymarfer ysbrydol, gan ddilyn Sana wrth iddi wthio yn ôl yn erbyn cyfyngiadau diwylliannol a chymdeithasol i archwilio ei chreadigrwydd cynhenid a hawlio ei lle yn y byd. Drwy gyfuno delweddau henna ac ysbrydoliaeth graffiti gyda cherddoriaeth bwerus, mae’r gwaith ysbrydoledig hwn yn dathlu taith Sana wrth i’r byd o’i hamgylch flodeuo. 

Out of Time

Gan Claire Victoria Roberts, Giselle Ty a Lauren Orme (Picl Animation)  

Stori dywyll-gomic a ffantasi am apocalyps yn y dyfodol lle mae natur yn adennill ei harddwch a’i helaethrwydd. Yn lle dinistr a disbyddu dynol, mae planhigion ac anifeiliaid yn gwrthryfela yn erbyn difodiant, gan amharu ar fywyd bob dydd i lenwi strydoedd a dinasoedd â lliwiau caledoscopaidd. Wrth i'r byd naturiol ffynnu, a yw hi’n rhy hwyr i ymddiheuro i'r Ddaear? O chwerthinllyd i seicedelig, digofaint operatig sy’n dilyn. 

Music. Theatre. Wales. 
Ail-ddychmygu opera 

Amser dechrau: 7.30pm, 8.30pm, 9.30pm

Hyd y perfformiad: 20 minud

Oed: Pob oed. Nodwch fod rhaid i bobl o dan 16 fod yng nghwmni oedolyn.