Ríoghnach Connolly a Stuart McCallum yw calon greadigol The Breath. Iddyn nhw, y gân yw popeth.
Mae Connolly’n ysgrifennu drwy’r unig ffordd mae’n ei gwybod; llif ymwybod barddonol sy’n ffurfio caneuon gonest, personol, a theimladwy sydd yr un mor debygol o drafod hafau plentyndod a chariad cyntaf â dadleoliad diwylliannol, anghyfiawnder ôl-drefedigaethol a galar. Ond ei llais eneidiol, dengar a chwbl syfrdanol – boed yn dyner ac yn dawel neu’n bwerus ac yn ddewr – ochr yn ochr ag athrylith gynnil Stuart a’u caneuon crefftus, sy’n rhoi dyfnder mor emosiynol i The Breath.
Mae ‘Land Of My Other’, trydedd albwm The Breath, yn lle llawn atgofion ac alawon, telynegiaeth a llên. Mae’n lle llawn heulwen, straeon tylwyth teg a choed cerddin; yn lle llawn galar, carchar a tharanau yn y tywyllwch. Lle mae trawma hynafol ac anghyfiawnder trefedigaethol yn uno â balchder tanbaid, hunanreolaeth ramantus, a dal dwylo mewn cylch yn y môr.
MWY GAN THE BREATH
Amser dechrau: 9.30pm
Hyd y perfformiad: 1 awr 15 munud
Oed: Pob oed. Nodwch fod rhaid i bobl o dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu hŷn.
O dan 30
Gostyngiad o £5
Cynnig tocynnau
Prynwch docynnau ar gyfer 2 ddigwyddiad Llais i arbed 10%.
Prynwch docynnau ar gyfer 3 digwyddiad Llais i arbed 15%.
I fanteisio ar y cynnig ar-lein, rhaid i nifer y tocynnau ar gyfer pob digwyddiad fod yr un peth. Caiff y cynnig ei ychwanegu at eich basged. Nid yw’r cynnig yma yn cynnwys y Wobr Gerddoriaeth Gymreig, Lock Off, Street Art Operas na Colored: The Unsung Life of Claudette Colvin.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddyraniadau ac argaeledd.