Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Epilog

Epilog

Yn seiliedig ar albwm gasgliad a luniwyd gan y casglwr a’r cynhyrchydd radio Dyl Mei, sioe yw EPILOG sy’n seiliedig ar ganeuon o’r operâu roc Cymraeg anhygoel a berfformiwyd gyntaf yn y saithdegau a’r wythdegau.

Gyda lein-yp llawn sêr yn cynnwys Meic Stevens, Sidan, Ac Eraill, Heather Jones a mwy, roedd Epilog yn gyfle unwaith ac am byth i ail-fyw a gwerthfawrogi’r oes aur ryfeddol yma yn hanes canu pop Cymraeg.