Prosiect cyfansoddi caneuon gan gyd-gyfarwyddwr artistig PME-ART (Canada), Jacob Wren, yw EVERY SONG I'VE EVER WRITTEN sy’n gwahodd cerddorion i berfformio caneuon a ysgrifennwyd gan Wren dros gyfnod o ugain mlynedd.
Yn y gig arbennig yma gan Ŵyl y Llais yn Chapter, bu pum band ac artist o Gaerdydd (Perfect Body, Adwaith, Rufus Mufasa, John MOuse a Jenn Kirby) yn perfformio un yr un o ganeuon Jacob.
Ar ôl pob fersiwn, byddai Jacob yn cyfweld â'r artistiaid am sut brofiad oedd canu eu fersiwn o’r gân, a byddai’r artistiaid hefyd yn cyfweld â Jacob am sut brofiad oedd ei hysgrifennu.