Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Anna Meredith

Anna Meredith

Heb gategori ac yn herio dulliau, mae ANNA MEREDITH yn gyfansoddwraig, cynhyrchydd a pherfformiwr o’r Alban.

Cyn rhyddhau ei halbwm stiwdio gyntaf Varmints – a ddyfarnwyd yn Albwm y Flwyddyn yr Alban yn 2016 – roedd Anna Meredith yn adnabyddus yn barod fel ysgrifennydd cerddoriaeth ar gyfer pobl eraill. Gan gymryd comisiynau gan gerddorfeydd, operau a sefydliadau diwylliannol rhyngwladol, mae hi wedi ysgrifennu symffonïau, caneuon a phedwarawdau llinynnol, ac wedi arbrofi gyda ‘boomwhackers’, beatbocsio a tharo’r corff.

Cafodd ei hail albwm, FIBS, ei fyr-restru ar gyfer y Hyundai Mercury Prize yn 2020, gan gyfuno seiniau acwstig ac electroneg yn ei llais cyfansoddiadol unigryw hi.

Mae ei cherddoriaeth wedi’i chlywed yn y Promiau, mewn perfformiadau fflachmob mewn gorsaf gwasanaethau traffyrdd, ac ar bomprennau haute-couture. Nawr gallwch chi glywed Anna Meredith MBE – wedi’i gwobrwyo am wasanaethau i gerddoriaeth yn Rhestr Anrhydeddau Penblwydd y Frenhines yn 2019 – fel rhan o’n lein-yp ddydd Sadwrn.

“One of the most innovative minds in modern British music” 

Pitchfork

MWY GAN ANNA MEREDITH