Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Juice Menace

Juice Menace

Mae JUICE MENACE – neu’r 'CDF CEO’ – yn rapiwr hynod bwerus sydd ar fin llwyddo’n fawr.

Gan arddangos gwir fedrusrwydd â geiriau, llif penigamp ac arddull perfformio awdurdodol i herio artistiaid llawer hŷn ‘na hithau, mae Juice yn taclo sbectrwm rap y DU’n ddiymdrech.

Yn 2020, llwyddodd ei sengl No Speaking greu gofod ar gyfer safonau uchel y menywod sydd ar y sîn yn y DU a fu gynt dan ddylanwad dynion, tra bod ei rapio rhydd wedi ennill cefnogwyr fel Aitch, DJ Target a DJ Semtex.

Er bod Juice Menace ond ar ddechrau ei thaith, fel llefarydd medrus a pherfformiwr di-nam mae hi’n profi ei hun yn deilwng o’r teitl “CDF CEO” a roddwyd iddi gan ei chyfoedion a’i dilynwyr ffyddlon.

“Juice Menace is here to blow up your Welsh stereotypes” 

npr music

MWY GAN JUICE MENACE