Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Perfformiadau am ddim: Dydd Gwener

Yn ystod yr ŵyl cewch gyfle i brofi sawl perfformiad cyhoeddus am ddim drwy gydol yr adeilad - gan gynnwys darnau dawns pop-yp, ffilmiau 360 ymdrochol, gosodiadau sain, trafodaethau panel a chynhyrchiadau theatr ieuenctid.

Yng nghyntedd y Glanfa

Drwy'r dydd: Power Wall. Darganfyddwch fwy am y cynhyrchiad Ymyriadau Pwerus hwn, a gomisiynwyd drwy'r bartneriaeth Yn Gryfach Ynghyd rhwng Canolfan Mileniwm Cymru a Valleys Kids, a rhowch wybod beth yw ystyr 'pŵer' i chi.

Drwy'r dydd: Mae Pencil Breakers yn cynnwys darnau gwreiddiol o ysgrifen gan leisiau cwiar, anabl ac actifydd. Dewch o hyd i bedwar poster yng nghyntedd y Glanfa a sganiwch y cod QR er mwyn darllen neu wrando ar y straeon.

2.15pm - 2.20pm: Mae Roaring 20s yn ddawns sydd wedi'i hysbrydoli gan Peaky Blinders, wedi'i pherfformio gan Nikita Gill a Coralanne Evans. Yn chwarae gyda'r disgwyliadau ar ymddygiadau menywod o'r Cymoedd, ceir tyndra 'kiss or kill' yn yr awyr wrth i'r ddawns pum munud gymysgu arddulliau stryd a chyfoes.

3pm - 9pm: Profiad VR Ripples of Kindness ar bwys y Caffi yng nghyntedd y Glanfa. Caiff y profiad realiti rhithwir cymydol hwn ei ysbrydoli gan straeon Hussein Amiri a'i deulu (The Boy with Two Hearts), a orfodwyd i ffoi o Affganistan yn 2000.

Yn yr ofod arddangos

Drwy'r dydd: Mae Theatr Ieuenctid Rhydyfelin yn cyflwyno Disruption, ffilm 360 ddigidol ymdrochol a fydd yn eich cymryd ar archwiliad o'r gwahanol deimladau mae pobl ifanc yn profi o ganlyniad i darfiadau.

Drwy'r dydd: Mae Company of Sirens, mewn cydweithrediad â Sight Life Wales, yn cyflwyno With Eyes Closed, ffilm sy'n edrych ar atgofion sy'n perthyn i gerddoriaeth. Gan gynnwys perfformwyr â cholled golwg, mae'r ffilm yn gasgliad o straeon personol sy'n ystyried natur y cof ac adrodd straeon. Cyfarwyddwyd gan Chris Durnall ac Angharad Matthews. Cyfarwyddwr cynorthwyol: Tafsila Khan. Dylunydd goleuadau: Cara Hood. Cerddoriaeth: Stacey Blythe.

Drwy'r dydd: Mae Vessels yn gerdd gair llafar gan y Cydymaith Creadigol Jaffrin Khan sy'n ystyried pwysedd cymdeithasol delwedd corff. Mae'r darn yn edrych ar sut mae'r diwydiant gosmetigau, y wasg a'n perthnasau'n effeithio ar y ffordd rydyn ni'n gweld ein hunain. Wedi'i ysgogi gan brofiadau bywyd, defnyddiodd Jaffrin anecdotau personol fel ysbrydoliaeth.

Drwy'r dydd: The Successors of Mandingue, ffilm gan Tim Short sy'n edrych ar gerddoriaeth a dawns y cydweithrediad egnïol hwn o Orllewin Affrica, gyda dawnswyr o Gymru a Senegal a cherddoriaeth gan N’famady Kouyaté.

Drwy'r dydd: Unlikely Heroes - The Curse of the Doughnut, drama sain 30 munud sy'n ystyried hunaniaeth, cenedl a rhywioldeb mewn modd chwareus. Canllaw oedran: 14+

Yn y Stiwdio Weston

Mae'r artist lleol Imran Khan yn curadu cyfres o weithdai a pherfformiadau.

3pm - 4.30pm: Gweithdy Amruta Garad, canu o India er lles.

4.30pm - 6.30pm: Gweithdy Luanda, canu Afro-Ciwbaidd.

6.30pm - 7.30pm: Perfformiad artist ifanc, Music and Poetry Guild.

7.45pm - 8pm: Wadda, perfformiad Calypso paniau dur.

8pm - 8.15pm: Una Rumba.

8.15pm - 8.30pm: Amruta Garad, perfformiad glasurol Indiaidd.

8.30pm - 10pm: The Moors, cerddoriaeth arbrofol ethnig digidol.

Yn Radio Platfform

7.30pm - 8.15pm: Next Up, yn cyflwyno'r artistiaid gorau yn y sîn cerddorol MOBO Cymru sy'n dod i'r amlwg, gyda sesiynau byw gyda dau artist grime.

Mae L E M F R E C K yn artist sy'n cyfuno ei fagwriaeth grime gyda dawn gerddorol â hyfforddiant clasurol. Wedi'i enwi yn un o'r rhai i wylio gan BBC Introducing yn 2021, mae e wedi perfformio ar lwyfannau mawr sawl gŵyl gan gynnwys Focus Wales. Peidiwch â cholli'r cyfle i'w weld yn perfformio mewn gosodiad mwy clos.

Enwebwyd Razkid ar gyfer Gwobr Gerddoriaeth Caerdydd ac mae'n parhau i herio ffiniau cerddoriaeth grime, gan defnyddio ei brofiadau ei hun i ddod â cherddoriaeth hyblyg ac adfywiol gyda geiriau'n llawn sylwedd. Wedi'i chwarae'n rheolaidd ar BBC Radio 1Xtra, ni fyddwch chi eisiau colli'r set hwn.