Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Perfformiadau am ddim: Dydd Sul

Yn ystod yr ŵyl cewch gyfle i brofi sawl perfformiad cyhoeddus am ddim drwy gydol yr adeilad - gan gynnwys darnau dawns pop-yp, ffilmiau 360 ymdrochol, gosodiadau sain, trafodaethau panel a chynhyrchiadau theatr ieuenctid.

Yng nghyntedd y Glanfa

Drwy'r dydd: Power Wall. Darganfyddwch fwy am y cynhyrchiad Ymyriadau Pwerus hwn, a gomisiynwyd drwy'r bartneriaeth Yn Gryfach Ynghyd rhwng Canolfan Mileniwm Cymru a Valleys Kids, a rhowch wybod beth yw ystyr 'pŵer' i chi.

Drwy'r dydd: Mae Pencil Breakers yn cynnwys darnau gwreiddiol o ysgrifen gan leisiau cwiar, anabl ac actifydd. Dewch o hyd i bedwar poster yng nghyntedd y Glanfa a sganiwch y cod QR er mwyn darllen neu wrando ar y straeon.

3pm - 9pm: Profiad VR Ripples of Kindness ar bwys y Caffi yng nghyntedd y Glanfa. Caiff y profiad realiti rhithwir cymydol hwn ei ysbrydoli gan straeon Hussein Amiri a'i deulu (The Boy with Two Hearts), a orfodwyd i ffoi o Affganistan yn 2000.

3pm - 3.45pm: Mae'r Forget-Me-Not Chorus yn cyflwyno rhaglen o ganeuon i wneud i'ch enaid ganu, gan gamu i'r llwyfan gyda chantorion a cherddorion proffesiynol i ddathlu ac amlygu eu gwaith elusennol dementia.

Yn Ystafell Gyfarfod 6

1pm - 2.30pm (Saesneg/ BSL) / 4.30pm - 6pm (Cymraeg): Mae'r Cydymaith Creadigol Jo Fong yn cyflwyno Heb Fod Fan Hyn Na Man Draw, cyfres o drafodaethau byr - doniol, agos, pwerus ac amyneddgar - yn cymryd lle mewn parau dros chwe munud rhwng Sonja a Jo, ac Eddie a Sarah. Mae'r profiad "ysbrydoledig a chalonogol" hwn yn dechrau gyda cherdded am ychydig ac yn datblygu'n adeg i feddwl, gwrando a gweld y bobl rydyn ni'n byw yn eu canol sydd grefftio mewn modd chwareus.

Yn y gofod arddangos

12pm - 11pm: Mae Infinity Room yn gread artistig newydd gan yr artist lleol Gavin Porter.

Drwy'r dydd: Mae Company of Sirens, mewn cydweithrediad â Sight Life Wales, yn cyflwyno With Eyes Closed, ffilm sy'n edrych ar atgofion sy'n perthyn i gerddoriaeth. Gan gynnwys perfformwyr â cholled golwg, mae'r ffilm yn gasgliad o straeon personol sy'n ystyried natur y cof ac adrodd straeon. Cyfarwyddwyd gan Chris Durnall ac Angharad Matthews. Cyfarwyddwr cynorthwyol: Tafsila Khan. Dylunydd goleuadau: Cara Hood. Cerddoriaeth: Stacey Blythe.

Drwy'r dydd: Mae Vessels yn gerdd gair llafar gan y Cydymaith Creadigol Jaffrin Khan sy'n ystyried pwysedd cymdeithasol delwedd corff. Mae'r darn yn edrych ar sut mae'r diwydiant gosmetigau, y wasg a'n perthnasau'n effeithio ar y ffordd rydyn ni'n gweld ein hunain. Wedi'i ysgogi gan brofiadau bywyd, defnyddiodd Jaffrin anecdotau personol fel ysbrydoliaeth.

Drwy'r dydd: The Successors of Mandingue, ffilm gan Tim Short sy'n edrych ar gerddoriaeth a dawns y cydweithrediad egnïol hwn o Orllewin Affrica, gyda dawnswyr o Gymru a Senegal a cherddoriaeth gan N’famady Kouyaté.

Drwy'r dydd: Unlikely Heroes - The Curse of the Doughnut, drama sain 30 munud sy'n ystyried hunaniaeth, cenedl a rhywioldeb mewn modd chwareus. Canllaw oedran 14+

Yn y Stiwdio Weston

2pm - 6pm (BSL gan Sami Dunn): Voices of the Rhondda. Mae'r gosodiad gelf ryngweithiol hwn, gydag elfennau o theatr a chwarae rôl, yn dangos pŵer anhygoel y gymuned yn y Rhondda dros y degawdau. O bartïon stryd i brotestiadau, o streic y glöwyr i deithiau i draethau Porthcawl, bydd cwmni o bobl ifanc o Benyrenglyn yn eich gwahodd i ymuno â nhw a dod i'w brofi eich hun. Gwyliwch y gosodiadau hyn yn dod yn fyw gyda pherfformiadau byw am 2pm (protestiadau), 3.30pm (traeth) a 5pm (parti stryd).

7pm - 7.30pm: Ymunwch â ni ar gyfer ymddangosiad gyntaf y ffilm Culture is Ordinary, darn a grëwyd i nodi canmlwyddiant genedigaeth yr ysgrifenwr a meddyliwr Cymreig Raymond Williams. Wedi'i ariannu gan y Raymond Williams Foundation, mae'r ffilm 20 munud yn canolbwyntio ar y ffordd mae diwylliant yn cael ei ddehongli gan bobl ifanc yng Nghymru. Cyfarwyddwyd gan Colin Thomas a chrewyd gan yr artist o Gaerdydd, Tom Goddard, gyda cherddoriaeth newydd gan y gerddor o Gaerdydd Kiddus Murrell, sydd ar hyn o bryd yn gweithio yn Nhŷ Cerdd.