Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Stella Chiweshe

Stella Chiweshe

Fel brenhines cerddoriaeth Mbira o Zimbabwe, mae STELLA CHIWESHE yn berfformiwr pwerus a hynod ysbrydol.

Mae’r mbira – asgwrn cefn cerddoriaeth Zimbabwe – yn offeryn ag allweddau metal ar fwrdd sain pren, a chaiff ei blycio gyda’r bodiau a bys blaen. Cyn perfformio fel cerddor Mbira am dros 35 mlynedd, dysgodd Stella Chiweshe ei chrefft ar adeg pan nid yn unig oedd menywod wedi’u gwahardd rhag chwarae’r offeryn, ond hefyd pan waharddwyd pob offeryn, cân a seremoni draddodiadol gan y gyfundrefn trefedigol.

Fel yr artist benywaidd gyntaf i ennill clod ac adnabyddiaeth mewn traddodiad cerddorol llawn dynion, mae Chiweshe wedi dangos y ffordd. Mae ei gwaith wedi’i sefydlu hi yn y sîn Affricanaidd cyfoes, gan ddangos dyfnder a phŵer traddodiad ysbrydol y Mbira adref a thramor.

Ailgyhoeddwyd albwm gyntaf Chiweshe o 1987, Amuya? Eleni gan Piranha Records. Mae’n cynnwys sesiwn gyda John Peel ar BBC Radio 1 o 1988 yn ogystal â newid ar y teitl o Ambuya? (sef mamgu?) i Ambuya! – datganiad taw hi yw ‘mamgu’r mbira’.

“Haunting and full of raw emotion”

Popmatters

MWY GAN STELLA CHIWESHE