Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Tricky

Tricky

Mae gyrfa gerddorol y cynhyrchydd TRICKY dros dri degawd o hyd bellach, ond mae e dal i frwydro a thoreithio cerddoriaeth newydd.

Dros y ddwy flynedd diwethaf, mae e wedi rhyddhau’r EP swynol 20,20, cyhoeddi’r hunangofiant Hell Is Round The Corner, a rhyddhau ei 14ydd albwm stiwdio, Fall To Pieces ar ei label ei hun False Idols.

Mae cerddoriaeth Tricky o hyd wedi sicrhau cantoresau anhygoel i gario ei syniadau. Mae mwyafrif y traciau ar ‘Fall To Pieces’ yn cynnwys Marta Złakowska, cantores a ddarganfyddodd yn ystod taith yn Ewrop lle roedd e heb gantores ar y noson agoriadol pan achubodd Marta’r daith gyfan.

Gyda band fyw llawn yn dod ag ef i Ŵyl y Llais, dylech ddisgwyl geiriau tywyll a dwys, lleisiau pwerus ac arbrofi electronig ar ei orau.

“Tricky makes, and has always made, nocturnal music, and a Tricky album is usually sonic melange of dusty dub, hazy jazz and suffocating electronics. Fall to Pieces is no different, and in many ways it represents the quintessential Tricky experience.”

The Line of Best Fit

MWY GAN TRICKY