Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Am Ddim: Cyngor Hil Cymru yn cyflwyno Young People the Time is Now

Am Ddim: Cyngor Hil Cymru yn cyflwyno Young People the Time is Now

28 Hydref 2022

Cyngor Hil Cymru yn cyflwyno noson am ddim o rai o ddoniau duon gorau Cymru.

Afro Cluster

Criw o Gaerdydd yw AFRO CLUSTER sydd wedi’u hysbrydoli gan etifeddiaeth ffync/Afrobeat Gorllewin Affrica a Hip-Hop yr oes aur. Ethos creadigol eu gwaith yw ysgogi cariad a gobaith mewn byd cynyddol elyniaethus. Ar draws eu catalog byddwch yn clywed rhythmau cadarn a chymalau jazzaidd wedi'u hatgyfnerthu gan eiriau ysbrydoledig wedi'u hysgrifennu a'u cyflwyno gan yr emcee Skunkadelic.

Maen nhw wedi cael derbyniad da ar daith gyda slotiau blaenllaw mewn gwyliau ar draws gwledydd Prydain gan gynnwys Glastonbury, WOMAD, y Dyn Gwyrdd, Boomtown a Wilderness. Maen nhw hefyd wedi bod yn cefnogi artistiaid fel Gilles Peterson, Hot 8 Brass, People Under The Stairs ac Ibibio Sound Machine.

Ymddangosodd albwm gynta’r band ‘The Reach’ ym mis Chwefror 2021, gan archwilio cyfyng-gyngor y natur ddynol, ein perthnasoedd, ein brwydrau a chyflwr presennol y diwydiant cerddoriaeth, gyda phwyslais ar sut gall meddylfryd cadarnhaol ac undod ein helpu i ddod o hyd i atebion.

Dabs Calypso Trio

Arweinir DABS CALYPSO TRIO gan Dabs Bonner, cerddor sy’n byw yng Nghaerdydd. Mae’r band yn chwarae amrywiaeth o gerddoriaeth o’r Caribî ac yn rhannu straeon a hwyl o bob rhan o’r ynysoedd.

Ify Iwobi

Pianydd, cynhyrchydd a chyfansoddwraig cerddoriaeth a chaneuon a aned yn Abertawe yw IFY IWOBI. Mae Ify newydd dorri record fel y Gymraes ddu gyntaf o dreftadaeth Nigeria i gael chwe sengl yn olynol ar Restr A gyda BBC Radio Wales.

Baby Queens

Carwriaeth deuluol yw BABY QUEENS (dwy chwaer, dwy gyfnither a chwaer fabwysiedig) o Gaerdydd. Mae eu cerddoriaeth yn gyfuniad o ddylanwadau o roc i hip hop, reggae i RnB. Mae’r band ar hyn o bryd yn gweithio ar eu dilyniant hir-ddisgwyliedig i’w halbwm cyntaf hunan-deitl a enwebwyd am y Wobr Gerddoriaeth Gymreig.

Anwar Siziba

Mae ANWAR SIZIBA yn ganwr-gyfansoddwr RnB, Soul, Hip hop ac Afrobeat yn wreiddiol o Essex. Yn artist hunan-gynhyrchu, rhyddhaodd Anwar yr EP Afro Love yn ddiweddar, dan ddylanwad ei wreiddiau Affricanaidd.