Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
AM DDIM: ENAID // SOUL

AM DDIM: ENAID // SOUL

29 Hydref 2022

Noson o artistiaid newydd yn arddangos eu dehongliadau amrywiol o gerddoriaeth R&B ac enaid fodern.

Pritt

Mae’r seren newydd PRITT yn sicr yn creu ei llwybr ei hunan at lwyddiant gyda’i chyfuniad syfrdanol o lais R&B ac alawon Asiaidd yn curo drwy ei cherddoriaeth. Mae’n dod o gefndir Tamil ac wedi cael ei hyfforddi’n glasurol mewn cerddoriaeth Garnatig ers iddi fod yn 8 oed, ac mae’r artist R&B yn defnyddio ei benyweidd-dra i rymuso presenoldeb menywod mewn cerddoriaeth ddinesig ac yn dangos ei gallu i gyfuno dau fyd yn un yn gywrain.

Nia Wyn

Mae gan yr artist neo-enaid NIA WYN ddawn am adrodd straeon amrwd a phwerus. Mae ei llais anghonfensiynol ond gafaelgar yn ei hamlygu yn erbyn cefndir o artistiaid benywaidd ifanc newydd ym Mhrydain – gan ddangos carisma herfeiddiol a chyffrous sy’n galed ac yn gynnes. Ar ôl gweithio gyda Paul Weller a chefnogi Weller a Paloma Faith yn fyw, mae Nia wedi denu cefnogaeth gan bobl fel DIY, Wonderland, CLASH, EARMILK, BBC R1, 6 Music, BBC Introducing a BBC Radio Wales.

Eädyth x Izzy

Mae EÄDYTH, cantores-gyfansoddwraig sy’n byw yn Aberfan, a’r rapiwr dwyieithog IZZY RABEY wedi bod yn cydweithio ers mis Chwefror 2020 pan fuon nhw’n gweithio ar gynhyrchiad theatr ‘Microwave’ gan Elinor Cook. Ar ôl cael eu dylanwadu gan artistiaid fel Haitus Kaiyote, Lauryn Hill ac Erykah Badu, dechreuodd Eädyth ac Izzy weithio ar eu prosiect cydweithredol cyntaf, EP ddwyieithog â phum trac o’r enw ‘Mas o Ma’. Cafodd ei hysgrifennu a’i chyfansoddi yn ystod cyfnodau clo 2020, ac mae 'Mas o Ma' yn EP sy’n troedio’r ffin rhwng neo-enaid a hip-hop traddodiadol, gan gyfuno geiriau personol gyda gwaith cynhyrchu ffynci a llyfn yn llawn curiadau anghyson.

MissFaithee

Cantores-gyfansoddwraig enaid o Walthamstow, dwyrain Llundain, yw MISSFAITHEE, sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd. Yn 2016, cymerodd ran yn rhaglen deledu The Voice UK fel rhan o dîm Paloma Faith. Ers hynny, mae Faith wedi rhyddhau llawer o EPs a senglau, ac mae wedi cael ei disgrifio fel ‘Mary J Blige Caerdydd’.

GWRANDEWCH AR Y ARTISTIAD