Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Llais Creadigol

Llais Creadigol

29 – 30 Hydref 2022

Tra'ch bod chi yn Llais edrychwch ar arddangosion, gwaith celf a ffilmiau rhad ac am ddim - i gyd wedi'u creu gan bobl ifanc sydd wedi cymryd rhan yn ein gweithdai Llais Creadigol.

Galwch draw i Scratch Studio i weld peth o’r gwaith creadigol maen nhw wedi’i greu, gan gynnwys gwaith celf graffiti, ffilmiau a gemau rhyngweithiol y gallwch chi roi cynnig arnyn nhw eich hun.

Dydd Sadwrn 29 Hydref

Hacio Bwyd

14–25 oed? Ymunwch â ni ar gyfer digwyddiad Hacio Bywyd rhad ac am ddim eleni fel rhan o Llais i gael profiad ymarferol gan weithwyr proffesiynol creadigol sy’n gweithio mewn diwydiannau amrywiol yma yng Nghymru.

Dydd Sul 30 Hydref

Arddangosfa Ieuenctid

Mae aelodau ifanc dawnus ein rhaglenni dysgu creadigol yn falch o gyflwyno dwy awr o adloniant ar lwyfan Glanfa. Bydd dawnsio, canu, a darnau o berfformiadau wedi’u dyfeisio a’u crefftio gan aelodau ein Theatr Ieuenctid. Dewch i gefnogi’r bobl ifanc greadigol yma sy’n dechrau ar eu taith yn y sector celfyddydau creadigol yng Nghymru.

Gemau Bwrdd Chwarae Rôl

10am–12pm

Bydd pobl ifanc yn cael cyfle i chwarae, ymgysylltu neu wylio perfformiad gêm fwrdd chwarae rôl lle bydd y chwaraewyr yn cymryd rôl cymeriadau o wahanol ddimensiynau/amser ac yn ymgorffori’r cymeriad gan ddyfeisio eu canlyniadau a’u dewisiadau eu hunain yn dibynnu ar sut mae’r dis yn glanio i arwain y stori ymlaen. Pwy a ŵyr pwy fydd yn ennill? Dewch i weld!

Os hoffech chi ddarganfod mwy am ein gweithdai, ewch i Llais Creadigol.