Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Clwb Soul Penarth

Clwb Soul Penarth

28 Hydref 2022

Ymunwch â ni am noson o soul finyl pur o’r 60au a’r 70au wrth i Glwb Soul Penarth gyflwyno noson o Northern Soul clasurol yn ein lleoliad Cabaret.

Mae Clwb Soul Penarth yn rhedeg nosweithiau soul rheolaidd ym Mhenarth, gan ddenu pobl o bell ac agos gydag ystod o gerddoriaeth soul o labeli eiconig megis Tamla Motown, Stax, Atlantic, Chess ac Invictus a digonedd o Northern Soul.

Felly, dewch â’ch sgidiau dawnsio gyda chi a pharatowch am noson wefreiddiol ‘Out On The Floor’!