Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Sgyrsiau: Ymuno â'r diwydiant gerddoriaeth gydag Elijah

Sgyrsiau: Ymuno â'r diwydiant gerddoriaeth gydag Elijah

27 October 2022

Rydyn ni’n llawn cyffro bod Elijah yn ymuno â ni yn LLAIS am sgwrs a sesiwn holi ac ateb a fydd yn digwydd cyn y gig Next Up gyda D Double E a rhai o’r artistiaid Grime a Dril newydd gorau o Gymru.

Artist, awdur, DJ, rheolwr a churadur yw Elijah. Ar ôl rhedeg y label grime annibynnol a dylanwadol Butterz a sefydlodd gyda Skilliam yn 2010, mae ei brosiect ysgrifennu dyddiol o ‘sgwariau melyn’ ar Instagram yn cynrychioli ei fyfyrdodau, ei syniadau, ei gwestiynau a’i chwilfrydedd am y broses greadigol a beth mae’n ei olygu i fod yn artist ar hyn o bryd, gan ofyn nifer o gwestiynau nad ydyn nhw’n cael eu gofyn yn aml am fod yn artist, yn hyrwyddwr neu’n rheolwr ac yn cwmpasu pynciau fel nosweithiau clwb, cyllid, cymunedau cerddoriaeth, porthgadw a’r cyfryngau cymdeithasol. Mae’r sgwrs hon i bawb – p’un a ydych yn egin artist, yn hyrwyddwr newydd, yn newyddiadurwr neu’n gefnogwr cerddoriaeth yn unig.

 

Bydd y sgwrs am ddim hon yn dechrau am 6pm ar lwyfan y Glanfa.