Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Cate Le Bon

Cate Le Bon

Bu Cate Le Bon a’i band breuddwydiol yn cymryd rhan mewn fersiwn digidol o Ŵyl y Llais ym mis Mawrth 2021, gan berfformio ei halbwm dyfodolaidd hyfryd, ‘Reward’, yn Theatr Donald Gordon fel rhan o Ŵyl 2021 ar y BBC.

Mae arloesedd yn ffynnu mewn argyfwng. Y term sydd wedi’i fathu yn ystod y pandemig ar gyfer cyngerdd sy’n cael ei ffrydio ar-lein – sef rhywbeth sydd wedi dod yn fwy amlwg yn ystod y pandemig – yw cyngerdd rhithiol.

Roedd y perfformiad yn adrodd hanes datblygiad un o'n hartistiaid cyfoes mawr wrth iddi ddychwelyd ’nôl gartref – mae'n chwa o niwl coch, yn daith i'r dyfnderoedd, yn rhith, yn gyngerdd i'r gwagle.

Yn wreiddiol o Sir Gaerfyrddin, daeth Cate i lygaid y cyhoedd am y tro cyntaf pan oedd yn cefnogi Gruff Rhys ar ei daith unigol yn 2007, ac yn ddiweddarach ymddangosodd fel cantores wadd ar sengl Neon Neon yn 2008, 'I Lust U'.

Disgrifiodd Jeff Tweedy o Wilco Cate fel 'un o'r goreuon sy'n creu cerddoriaeth ar hyn o bryd', ac mae dull anarferol Cate o greu cerddoriaeth yn gwneud iddi swnio'n unigryw – o ganeuon crefftus a swreal i bop gwreiddiol a beiddgar.

Ei record swyddogol gyntaf i gael ei rhyddhau oedd yr EP, Edrych yn Llygaid Ceffyl Benthyg ar Recordiau Peski yn 2008 cyn rhyddhau ei halbwm cyntaf, Me Oh My yn 2009.

Mae Cate yn byw yn Los Angeles ar hyn o bryd, a rhyddhaodd ei phumed albwm stiwdio, Reward yn 2019. Yn ogystal â pherfformio ar ein cyfer gyda’i band ym mis Mawrth 2021, mae hi hefyd yn mynd i fod yn guradur gwadd ar gyfer Gŵyl y Llais nesaf.