Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Dhun Dhora

Dhun Dhora

Bu’r artist Dhun Dhora yn cymryd rhan mewn fersiwn digidol o Ŵyl y Llais ym mis Mawrth 2021. Ffilmiwyd y gig yn India fel rhan o Ŵyl 2021 ar y BBC.

Y cyfieithiad llythrennol o Dhun Dhora yw tonau’r (dhun) twyni (dhora), ac mae’r grŵp ifanc arbennig yma o gerddorion meistrolgar yn dod o anialdiroedd gorllewin Rajasthan.

Mae gan y cerddorion yma, sy’n hanu o gymunedau hynafol Manganiyar a Langa, hanes o fod yn lleiswyr, offerynwyr, storïwyr ac achyddion nodedig, sy’n trosglwyddo’u sgiliau a’u gwybodaeth o un genhedlaeth i’r llall ar lafar.

Hyd yn oed heddiw, dywedir fod plentyn o Manganiyar neu Langa yn dysgu canu cyn dysgu crio.

Mae’r grŵp yn cyfuno melodïau lleisiol (araf, cyflym, Sufi ac ati) gyda sain offerynnau taro’r dholak a khartal i greu repertoire teimladwy ac ysbrydol neu fywiog ac afieithus, sy’n llawn asbri a rhythmau i guro’r traed – darnau sy’n gyforiog o gyfansoddiadau traddodiadol a chyfoes, a chylchoedd o guriadau. 

Mae personoliaethau daearol, swynol a dramatig y cerddorion wedi’u plethu yn y gerddoriaeth, sy’n cyfleu gonestrwydd pobl sy’n falch o’u traddodiadau, ond sy’n hapus i’w haddasu a’u rhannu â’r byd cyfoes.

Prif leisydd y grŵp yw Dayam Khan Manganiyar gyda Drymwyr Dhol Rajasthan. 

Mae’r grŵp wedi perfformio sawl gwaith yng ngŵyl Jodhpur RIFF a Gŵyl Gelfyddydau Serendipity yn Goa. Maen nhw wedi teithio a pherfformio yng ngŵyl Cysylltiadau Celtaidd yn yr Alban, yr Ŵyl Ryng-geltaidd (Llydaw), a Gŵyl Ryngwladol Cervantino ym Mecsico. 

Ym mis Awst 2019, fe berfformion nhw fel rhan o ‘Shooglenifty: East West‘ yng Ngŵyl Ryngwladol Caeredin yn yr Alban. Maen nhw hefyd wedi rhyddhau albwm ar y cyd â Shooglenifty, sef Written in Water.

Pluen arall yn het Drymwyr Dhol Rajasthan yw mai nhw oedd yr unig ensemble cerddorol Indiaidd i gael eu gwahodd i berfformio yng Ngemau’r Gymanwlad yn Glasgow yn 2014, yn ogystal â Gemau’r Gymanwlad yr Arfordir Aur yn 2018.