Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Jukebox Collective

Jukebox Collective

Cyflwynodd Jukebox Collective gyfres o berfformiadau byw – perfformiadau gair llafar a cherddorol – ar gyfer fersiwn digidol o Ŵyl y Llais ym mis Mawrth 2021 fel rhan o Ŵyl 2021 ar y BBC.

Roedd yr artistiaid yn cynnwys Aleighcia Scott, Faith, Jaffrin, King Khan a Reuel Elijah sy’n dod â synau a safbwyntiau newydd i Gaerdydd ac yn siapio diwylliant ieuenctid Cymru.

GAIR LLAFAR

Rhoddwyd bywyd i gerdd Jaffrin, SKN, drwy berfformiad gweledol barddol a gyfarwyddwyd gan Liara Barussi. Mae’r ffilm, a ffilmiwyd yn yr Amgueddfa Genedlaethol yn cwestiynu naratifau trefedigaethol a sut mae safonau’r Gorllewin am brydferthwch wedi’u trwytho yn ein cymunedau.

Rhoddwyd bywyd i gerdd arall Jaffrin, FAITH, drwy berfformiad gweledol barddol a gyfarwyddwyd gan Liara Barussi. Mae FAITH yn seiliedig ar brofiadau Jaffrin ei hunan, ac yn trafod crefydd, defodau a’r brwydrau rhwng ‘deen’ a ‘dunya’ (crefydd a bywyd go iawn).

CERDDORIAETH

Gan ddefnyddio dylanwadau o brosiect COLORSXSTUDIOS, curadodd Jukebox Collective gyfres o berfformiadau gan bedwar artist addawol o Gaerdydd fu’n perfformio ar lwyfan Theatr Donald Gordon...

ALEIGHCIA SCOTT

Artist reggae a Chymraes o dras Jamaicaidd a aned yng Nghaerdydd yw Aleighcia Scott. Mae hi ar fin rhyddhau ei halbwm cyntaf ar ôl gweithio arni gyda’r cynhyrchydd byd-enwog, Rory Stone Love.

Mae hi wedi ennill amryw o wobrau, fel ‘Artist Lleol Gorau’ Radio Cardiff ac wedi dod i'r brig ddwywaith yng ngwobrau MMG am yr ‘Act Reggae Orau’. Mae hi hefyd wedi perfformio yn Glastonbury, ar lwyfannau BBC Introducing, ac ar lwyfannau rhyngwladol gan weithio ochr yn ochr â’r cwmni chwedlonol Peckings Records.

FAITH

Cantores a chyfansoddwraig dalentog 23 mlwydd oed o Lundain sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd yw FAITH. Ymddangosodd ar y gyfres deledu THE VOICE UK lle cafodd ei mentora gan Paloma Faith.

Ers y sioe, mae FAITH wedi dilyn gyrfa fel cantores ac wedi rhyddhau sawl trac gan gynnwys Mind The Gap, Seychelles, Dear Chris, Lift ft Solo Jane a mwy. Mae hi wedi perfformio ar draciau artistiaid eraill hefyd, gan gynnwys y rapwyr Tizzy a Rival a’r seren Soul ac RnB deimladwy, Etta Bond.

KING KHAN

Rapiwr a chynhyrchydd o Gaerdydd yw King Khan sydd wedi dod ag arddull newydd ac unigryw i’r diwylliant Rap ym Mhrydain. Ar ôl mynd ati ei hunan i ryddhau ei albwm cyntaf, ‘Love songs and Melodrama’ yn 2019, gwnaeth enw iddo’i hunan yn sîn gerddorol y de ddwyrain, gan ennill ei le mewn gwyliau cerddoriaeth nodedig drwy Brydain.

Mae ei arddull unigryw o gynhyrchu’n cyfuno offerynnau manwl gyda geiriau a bachau cerddorol melodig sy'n croesi sawl genre gwahanol, ond mae ei ddylanwadau ei hunan yn dal i fod wrth wraidd y gerddoriaeth.

REUEL ELIJAH

Rapiwr, canwr a chyfansoddwr amryddawn o Gymru yw Reuel Elijah. Cafodd ei eni yng Nghaerdydd a'i fagu mewn cartref lle daeth o dan ddylanwad cerddoriaeth Jazz, Reggae a’r Eglwys Bentecostaidd a'i ysbrydoli i feithrin ei lwybr creadigol ei hunan.

Bu’n perfformio ar lwyfan o oedran ifanc. Aeth ymlaen i astudio mewn ysgol celfyddydau perfformio gan ddatblygu ei ddull rapio a chanu yn EYK a dawnsio gyda Jukebox Collective, ac ymddangos mewn rhaglenni teledu a theithio’n rhyngwladol.  

Yn 2016, roedd Reuel yn rhan o gynllun Gorwelion y BBC a chafodd ei ddewis i deithio Prydain a pherfformio’n fyw mewn lleoliadau byd enwog, gan gynnwys stiwdios Maida Vale. Un o draciau Reuel oedd y cyntaf erioed i gael ei chwarae ar BBC Radio 1Xtra drwy gynllun Gorwelion.

Mae wedi cefnogi artistiaid fel BrandyEric BellingerStormzyChaka Khan a Kid Ink ac wedi perfformio mewn digwyddiadau mawr gan gynnwys BBC Radio 1’s Big Weekend, Gŵyl The Great Escape a Gŵyl Inside Out.

Yn 2018, rhyddhaodd ei albwm cyntaf ‘Alignment’ – a aeth yn syth i mewn i rif 24 yn siartiau Hip Hop/Rap iTunes.