Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
NEXT UP

NEXT UP

Fel rhan o ŵyl ddigidol Gŵyl y Llais, cyflwynodd Radio Platfform gyfres o gigs byw 'Next Up' yn y stiwdio. Roedd y gigs yn cyflwyno artistiaid newydd o'r sin Rap a Hip Hop Gymreig.

Luke RV

Dros ychydig flynyddoedd yn unig, mae Luke RV wedi datblygu o fod yn artist ifanc addawol yn y sîn gerddoriaeth i fod yn un o artistiaid Hip Hop gorau Cymru.

Rhyddhaodd yr artist, y canwr a’r cyfansoddwr Hip Hop amgen o Gastell-nedd ei albwm cyntaf, ‘Lost’, yn 2018, ac ers hynny mae wedi mynd o nerth i nerth.

Enwebwyd ei EP ‘Valley Boy’ am Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2020, ac wedi hynny rhyddhaodd ei albwm ‘Going Nowhere’.

Ar ôl gweithio gydag artistiaid fel Local, Mace The Great a Grim Sickers, mae Luke wedi creu sain unigryw gyda’i brif gynhyrchydd, Minas, sydd wedi dod o dan ddylanwad ystod amrywiol o genres gan gynnwys Hip Hop, Grime, Pop a Garej.

Mace the Great

Gyda’i gerddoriaeth Grime llawn ynni a llif heintus, mae’r artist Mace The Great o Gaerdydd wedi mynd o nerth i nerth dros y flwyddyn ddiwethaf, ac wedi rhyddhau senglau yn 2020 a lwyddodd i greu argraff fawr yng Nghymru a thu hwnt.

Cafodd ei sengl 'Brave' ei dewis fel y gân gyntaf ar nodwedd Cardiff Takeover gan DJ Target ar BBC1xtra, a chafodd ei sengl nesaf 'Established' ei dewis fel Trac yr Wythnos BBC Introducing ar BBC1xtra yn ogystal â chael ei chwarae droeon ar BBC Radio Wales.

SZWÉ

Mae’r rapiwr a’r canwr aml-dalentog o Gwmbrân yn artist amryddawn, ac mae ei gerddoriaeth yn cynnwys ystod eang o genres cerddorol, gan gynnwys RnB a Hip Hop.

Cafodd ei sengl 'Shaky' ei chwarae gan Huw Stephens ar BBC Radio 1 ac mae ei ganeuon wedi cael eu darlledu ar BBC Radio Wales hefyd.

Cafodd ei EP 'Enter The Dragon' ei ryddhau yn 2020 ac roedd yn gynrychiolaeth wirioneddol o waith a datblygiad SZWÉ, ac un o’r uchafbwyntiau oedd delweddau pwerus ar gyfer 'No Justice No Peace'.

Yn 2021, mae SZWÉ yn gobeithio datblygu’r momentwm yma ymhellach, a gyda llu o wyliau eisoes wedi’u cyhoeddi, mae’n edrych fel blwyddyn brysur arall i’r artist gweithgar a diymhongar yma.