Recordiodd SPRINTS gig ar ein cyfer ni yn Iwerddon ar gyfer fersiwn digidol o Ŵyl y Llais ym mis Mawrth 2021, fel rhan o Ŵyl 2021 ar y BBC.
Mae’r band pedwar aelod o Ddulyn, Sprints, yn dilyn ôl troed Girl Band a Fontaines D.C ac yn creu sain crai a chryg mewn arddull garej, sy’n cyfuno bachau gitâr, rhythm ailadroddus a geiriau emosiynol i greu sain unigryw sydd ag adleisiau grynj, ôl-bync a mwy.
Ffurfiwyd SPRINTS yn niwedd 2019, ac ers hynny mae BBC Radio 6 Music, BBC Radio 1, NME a chylchgrawn DIY wedi bod yn canu eu clodydd.
Mae eu cerddoriaeth – sy’n seiliedig ar brofiadau, yr hinsawdd wleidyddol galed a’r ansicrwydd cymdeithasol ac economaidd – yn ddi-flewyn ar dafod, yn aml yn wleidyddol ei naws ac yn ddiffuant.