Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

'BUDDUGOLIAETH!' Llwyddiant Radio Platfform Yn Yr Arias

WEL, AM NOSON! Bythefnos yn ôl, fe gawson ni Wobr Arian yn yr ARIAS (Gwobrau’r Diwydiant Sain a Radio) ar gyfer ‘Gorsaf Gymunedol y Flwyddyn’. Mae hyn yn golygu yn SWYDDOGOL mai ni yw’r orsaf gymunedol orau ond un ym Mhrydain, a’r brif orsaf radio gymunedol ieuenctid.

Mae hyn yn destament enfawr i bawb sy’n rhan o waith Radio Platfform ar hyn o bryd, ac i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r gwaith dros y blynyddoedd. Mae blynyddoedd o waith wedi arwain at y wobr yma, ac mae’n dangos y daith anhygoel mae Radio Platfform wedi bod arni.

Rhaglen beilot gyda dec ac ambell feicroffon cludadwy oedd Radio Platfform i ddechrau, ac mewn saith mlynedd mae wedi dod yn orsaf sy’n ennill gwobr arian ARIA ac sy’n cynrychioli sain Canolfan Mileniwm Cymru, gan roi mynediad i gannoedd o bobl ifanc at y diwydiant sain.

Rhys Jones

Mae fy stori i’n debyg iawn i stori sawl un o aelodau Radio Platfform. Mae ymuno â’r orsaf wedi rhoi mynediad i ni at ddiwydiant na fydden ni wedi bod â ffordd o’i gyrraedd fel arall. Doeddwn i erioed wedi eistedd o flaen desg na siarad i mewn i feicroffon cyn hyn. Cymerais ran yn y cwrs hyfforddi y llynedd, a chwympo mewn cariad gyda sain cymaint nes fy mod wedi dod i weithio yn yr orsaf. Ond wnes i erioed freuddwydio y byddwn i, flwyddyn yn ddiweddarach, yn cymysgu gyda mawrion y diwydiant radio a phodlediadau mewn seremoni wobrwyo yn Llundain.

Fe af i â chi ’nôl i noson oer ym mis Mawrth pan o’n i’n gwylio ffrwd fyw cyhoeddiad enwebiadau’r ARIAs ar fy ffôn yn ystod gêm ail gyfle Pencampwriaeth Ewrop rhwng Cymru a Gwlad Pwyl. Er na aeth y pêl-droed fel y gobeithion ni, fe floeddiais pan gyhoeddwyd bod Radio Platfform wedi’i enwebu, er dryswch i’r bobl oedd yn eistedd o fy nghwmpas. Dyma oedd ein blwyddyn gyntaf yn ceisio yn yr ARIAS, felly roedd hyd yn oed cael ein henwebu yn llwyddiant ynddo’i hunan – ac, a dweud y gwir, byddwn i wedi bod yn hapus gyda hynny.



Ymlaen i fis Mai, ac rydyn ni’n cyrraedd y seremoni wobrwyo. Roedden ni’n ffodus bod modd i’r tîm cyfan fynd i gynrychioli’r orsaf yn y digwyddiad, a gynhaliwyd yn Theatr Royal Drury Lane, yn Llundain. Oedd, roedd hi’n foethus! Felly, fe wisgon ni ein dillad gorau a chymryd ein seddi, gan eistedd o flaen arwyr y byd sain fel Elis James, John Robbins, William Hanson a’r tu ôl i Rob Burrows!



O’r diwedd, daeth amser ein categori ni ddwy awr ar ôl i’r seremoni ddechrau. Roedd y cyffro, a’r prosecco am ddim, i’w teimlo nawr, a chyn pen dim daeth ‘RADIO PLATFFORM’ i fyny ar y sgrin fawr fel enillydd y wobr Arian. ‘All FM’ enillodd y wobr Efydd ac ‘RNIB Connect Radio’ enillodd y wobr Aur – enillydd teilwng, ac roedden ni’n falch iawn o ddod adre gyda’r arian. Mae cael bod rhwng dwy orsaf sydd wedi’u hen sefydlu, ac sy’n gweithredu ar raddfa fwy ac sydd â mwy o adnoddau na ni, yn dangos bod ansawdd gwaith Radio Platfform wir yn arloesol, a bod ein haelodau yn creu rhaglenni o’r radd flaenaf. Nid er mwyn cael y gydnabyddiaeth yma mae’r orsaf yn cael ei rhedeg.

Dydy ein haelodau ddim yn gwneud eu sioeau ar gyfer y gwrandawiadau na’r glam, mae pawb yn gwneud yr hyn maen nhw’n ei wneud am eu bod wrth eu boddau yn gwneud. Mae pob un ohonon ni’n caru sain a Radio Platfform, a dyna sy’n gwneud yr orsaf yma’n un arbennig.


Mae natur Radio Platfform, sy’n cael ei rhedeg gan bobl ifanc ar gyfer pobl ifanc, yn golygu ei bod hi’n gallu bod yr orsaf rydyn ni, a’n haelodau, eisiau iddi fod. Mae ein haelodau’n creu’r sioeau maen nhw eisiau, yn y ffordd maen nhw eisiau, a’r rhyddid yma sy’n eu galluogi nhw i fynegi eu hunain go iawn, ac sy’n creu gorsaf gwbl real. Mae hynny’n gwneud y wobr yma’n fwy arbennig byth. Mae’n dangos y potensial sydd yma yn y de, a’r pethau anhygoel gallwn ni eu gwneud pan gawn ni gyfle i’w dangos.

Diolch unwaith eto i bawb am wneud hyn yn bosib, ac allwn ni ddim aros i gael ein gwobr yn ein dwylo yn y stiwdio. Mae croeso i chi alw heibio tro nesaf y byddwch chi’n agos, ac os oes gennych chi ddiddordeb yn y byd sain, bydden ni’n falch o’ch croesawu i’r teulu!

Flwyddyn nesaf, fe awn ni am yr aur!

Rhys Jones
Swyddog Marchnata a Digwyddiadau Achlysurol

Gwrandewch ar Radio Platfform ble bynnag yr ydych chi, ar fwrdd gwaith, ffôn symudol, llechen neu seinydd clyfar. Gwrandewch yn ôl ar ein sioeau diweddaraf ar Mixcloud.

Gwrandewch ar radio byw

EIN CYRSIAU PLATFFORM

Rhaglen hyfforddi unigryw yw Platfform sy’n cynnig llwyfan i bobl ifanc archwilio eu diddordebau, mynegi eu hunain, meithrin hyder creadigol a rhannu eu naratif drwy ddysgu ymarferol.

Defnyddiwch eich llais yn Radio Platfform, ein gorsaf radio sy’n cael ei harwain yn llwyr gan bobl ifanc 11–25 oed. Os ydych chi’n frwdfrydig dros radio byw a phodlediadau neu am roi cynnig ar rywbeth newydd, dyma’r lle i chi.