Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Celfyddydau Ymdrochol

Yn galw Pobl Greadigol ac Artistiaid - darganfyddwch bopeth am Gelfyddydau Ymdrochol trwy fis Medi a mis Hydref.

Mae Celfyddydau Ymdrochol, y rhaglen dair blynedd ledled y DU sy'n cefnogi artistiaid i greu a rhannu celfyddydau ymdrochol - yn lansio gyda Dyddiau Ysbrydoliaeth am ddim i unrhyw un sydd â diddordeb mewn darganfod mwy a Gweminarau Cyllid am ddim i artistiaid a phobl greadigol.  

Dros y tair blynedd nesaf bydd Celfyddydau Ymdrochol yn dyfarnu £3.6 miliwn mewn cyllid grant i artistiaid sy'n byw yn y DU; bydd y cyntaf o dri rownd o gyllid yn agor ym mis Hydref 2024. 

Mae'r gyfres yma o Weminarau Gwybodaeth a Dyddiau Ysbrydoliaeth am ddim, a fydd yn cael ei chyflwyno ar-lein ac wyneb yn wyneb ledled y DU, yn anelu at helpu artistiaid a phobl greadigol datblygol i benderfynu pa un o'r cronfeydd sydd ar gael y gallent wneud cais amdani, i gwrdd â'r tîm ac i ofyn unrhyw gwestiynau. 

Beth yw Celfyddydau Ymdrochol? 

Mae’r term 'Celf Ymdrochol' yn golygu rhywbeth gwahanol i wahanol bobl ar draws sectorau amrywiol. Ar gyfer y rhaglen yma, rydyn ni’n golygu celf sy'n defnyddio technoleg i ymgysylltu'n weithredol â'r gynulleidfa. 

Mae gan y rhaglen newydd yma ddiddordeb arbennig yn y modd y gellir defnyddio realiti rhithwir, realiti estynedig a realiti ymestynnol i greu gwaith celf sy'n pontio lleoedd corfforol a digidol, yn ymgysylltu â mwy nag un o’r synhwyrau ac yn cysylltu pobl â'i gilydd a'u hamgylchedd. 

Dywedodd Verity McIntosh, Cyfarwyddwr Celfyddydau Ymdrochol, Athro Cysylltiol yn UWE Bryste: 

“Mae Celfyddydau Ymdrochol yn rhaglen newydd a chyffrous a fydd yn darparu ymchwil, hyfforddiant, mentora a chronfeydd hanfodol i artistiaid o bob rhan o'r DU. Rwy'n edrych ymlaen at gwrdd â rhai o'r ymgeiswyr posibl yn ein digwyddiadau ym mis Medi a mis Hydref a rhannu mwy am ein cynlluniau i gefnogi cymuned amrywiol o artistiaid dros y tair blynedd nesaf.” 

Mae Celfyddydau Ymdrochol yn cael ei arwain gan Brifysgol Gorllewin Lloegr (UWE Bryste), gyda'r prif hwb yn Pervasive Media Studio ym Mryste, Watershed fel Cynhyrchydd Gweithredol.

Gan weithio mewn partneriaeth agos â Phrifysgol Bryste a sefydliadau diwylliannol yng Nghaerdydd (Canolfan Mileniwm Cymru), Belfast a Derry (Nerve Centre) a Glasgow (Cryptic), bydd Celfyddydau Ymdrochol yn cynhyrchu rhaglen gyfoethog o gyfleoedd cynhwysol a hygyrch, gan chwalu rhwystrau er mwyn i artistiaid o bob cefndir allu ymgysylltu â'r adnoddau ymdrochol.

Bydd y rhaglen hyfforddi a chyflwyno yn cael ei harwain gan Crossover Labs, gyda mewnbwn strategol gan Unlimited, Rhwydwaith Technoleg Ymdrochol Innovate ac XR Diversity Initiative a Bwrdd Ymgynghorol rhyngwladol.

Pa gyllid sydd ar gael? 

Bydd Celfyddydau Ymdrochol yn dyfarnu £3.6 miliwn mewn cyllid grant i artistiaid sy’n byw yn y DU rhwng 2024 a 2027, gyda'r cyntaf o dri rownd o gyllid yn agor ym mis Hydref 2024.

Gallwch chi gofrestru i gael diweddariadau am y galwadau cyllid ac ymuno â'r rhestr bostio yma, neu gallwch chi wneud hynny yn un o'r Dyddiau Ysbrydoliaeth neu Weminarau Cyllid. 

Rydyn ni’n cynnal cyfres o Weminarau Gwybodaeth  a Dyddiau Ysbrydoliaeth, ar-lein a ledled y DU, i helpu ymgeiswyr posibl i benderfynu pa un o'r cronfeydd y gallent wneud cais amdani, i gwrdd â'r tîm ac i ofyn unrhyw gwestiynau. 

Galwadau cyllid – yn agor ar gyfer ceisiadau yn fuan! 

Cofrestrwch ar gyfer gweminar Celfyddydau Ymdrochol neu Ddiwrnod Ysbrydoliaeth! 

Gweminarau 

Dewch i gwrdd â'r tîm a dysgu am y tri math o gyllid a fydd yn agor ar gyfer ceisiadau yn fuan: 

Archwilio – grant o £5,000 
Arbrofi – grant o £20,000 
Estyn – grant o £50,000 

Mae'r sesiynau byr ar-lein yma ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwneud cais am unrhyw un o'r cyfleoedd, ac maen nhw wedi'u bwriadu i'ch helpu i benderfynu pa un o'n cronfeydd y gallech chi wneud cais amdano, cwrdd â'n tîm a gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych chi. 

Dyddiadau 

Dydd Mercher 9 Hydref 1–2pm, cofrestrwch yma  (bydd y weminar yma yn cynnwys cyfieithiad BSL) 

Dydd Mawrth 15 Hydref 5–6pm, cofrestrwch yma (bydd y sesiwn yma yn cael ei sain ddisgrifio)

Dydd Mercher 30 Hydref 11am–12pm, cofrestrwch yma (sesiwn galw heibio i ofyn am hygyrchedd), ni fydd yn cael ei recordio 

Methu dod i sesiwn fyw? Bydd recordiadau ar gael ar ein gwefan yn fuan ar ôl pob digwyddiad. 

Dyddiau Ysbrydoliaeth 

Ar gyfer artistiaid sydd ag ychydig neu ddim profiad o weithio gyda thechnoleg ymdrochol, mae'r gweithdai diwrnod cyfan yma, dan arweiniad Crossover Labs, wedi'u cynllunio i helpu i ddatgelu potensial celf ymdrochol a rhoi ysbrydoliaeth ar gyfer eich ymarfer creadigol. Mae'r sesiynau yn rhad ac am ddim ac ar agor i bawb ond maen nhw wedi'u hanelu'n benodol at y rhai sy'n ystyried gwneud cais am y gronfa Archwilio. 

Glasgow: Dydd Mercher 25 Medi, 10am–5pm – Cofrestrwch yma

Belfast: Dydd Gwener 27 Medi, 10am–5pmCofrestrwch yma

Caerdydd: Dydd Mercher 2 Hydref, 10am–5pmCofrestrwch yma

Sheffield: Dydd Mercher 16 Hydref, 10am–5pmCofrestrwch yma

Bryste: Dydd Gwener 18 Hydref, 10am–5pmCofrestrwch yma

Methu ymuno wyneb yn wyneb, neu oes well gennych gysylltu ar-lein? Dydd Mawrth 22 Hydref, 10am–12pm – Cofrestrwch yma

Peidiwch â phoeni os na allwch chi ddod, bydd y sesiynau ar-lein yn cael eu recordio a byddant ar gael trwy ein gwefan yn fuan ar ôl y digwyddiadau. 

I gael rhagor o wybodaeth am Gelfyddydau Ymdrochol, cofrestrwch ar gyfer ein rhestr bostio. 

Darperir cyllid ar gyfer Celfyddydau Ymdrochol drwy gydweithrediad rhwng Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau UKRI (AHRC), Cyngor Celfyddydau Lloegr (ACE), Cyngor Celfyddydau Cymru (ACW), Creative Scotland a Chyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon (ACNI). Mae cyllid gan Creative Scotland, ACW ac ACNI yn cael ei ddarparu gan y Loteri Genedlaethol.