Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

'IN THESE STONES': Sgwrs rhwng Gwyneth Lewis a Hanan Issa

Copyright © Simon Ridgway, 2018 - www.simonridgway.com

Daeth Hanan Issa, Bardd Cenedlaethol Cymru a Gwyneth Lewis, cyn Fardd Cenedlaethol Cymru a bardd ein harysgrif eiconig, ynghyd i drafod geiriau, ysbrydoliaeth a gwaddol.

Gydag ond dyddiau i fynd nes bod cynlluniau’r penseiri’n mynd at yr adeiladwyr, fe ysgrifennodd Gwyneth Lewis y geiriau eiconig sydd i’w gweld ar flaen ein hadeilad. Yn y cyfweliad arbennig yma gyda Hanan Issa mae hi’n trafod sut yr ysbrydolwyd hi gan yr adeilad ei hun, gorffennol diwydiannol Cymru a phair hudolus Ceridwen yn y Mabinogi.

It’s a great relief that I haven’t regretted a single letter.”

Gwyneth Lewis

Darganfyddwch fwy am ddyluniad yr arysgrif a’r ffordd y gellir ei ddarllen o’r chwith i’r dde fel un testun dwyieithog. Rhyfeddwch ar allu Gwyneth i ysgrifennu’r geiriau oesol hyn mewn un penwythnos a mwynhewch y sgwrs rhwng y beirdd gwych wrth iddynt drafod creu’r arysgrif eiconig sy’n parhau i fod mor berthnasol ag erioed, 20 mlynedd yn ddiweddarach.

GWYLIWCH Y CYFWELIAD LLAWN

A wyddoch chi fod hi’n 20 mlynedd ers i ni agor ein drysau am y tro cyntaf? Mae cymaint wedi digwydd dros y ddau ddegawd diwethaf – o sioeau gorau’r West End a chynyrchiadau teithiol o’r radd flaenaf, i danio dychymyg ledled y wlad gyda’n rhaglen o gynyrchiadau, digwyddiadau cymunedol a gwyliau ein hunain. 

Wrth i ni ddathlu’r garreg filltir gyffrous yma, fe edrychwn yn ôl at gychwyn ein taith, gyda dyluniad ein hadeilad ysbrydoledig, ac ymlaen at ddyfodol disglair fel cartref y celfyddydau yng Nghymru. 

Rheolir cynllun Bardd Cenedlaethol Cymru gan Llenyddiaeth Cymru.

 

Cefnogwch ni

Helpwch ni i gadw’r tân creadigol yn fyw yn y celfyddydau. Mae Canolfan Mileniwm Cymru’n tanio’r dychymyg ledled Cymru, gan ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol gyda gweithdai a hyfforddiant, meithrin talent gyda’n cynyrchiadau ein hunain a gweithio gyda chymunedau i ehangu mynediad rhad ac am ddim at y celfyddydau.

Bydd eich cefnogaeth nawr yn diffinio ein dyfodol. Diolch.