Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Diwrnod y Ddaear 2024

Fel sefydliad mawr sy'n croesawu 1.8 miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn, gwyddom fod ein gweithrediadau a'n gweithgareddau yn cael effaith ar yr amgylchedd.

Lleihau ein hallyriadau carbon yw un o'n blaenoriaethau craidd dros yr ychydig flynyddoedd nesaf. I nodi Diwrnod y Ddaear 2024 ar 22 Ebrill, dyma rai o'r ffyrdd rhagweithiol rydyn ni'n helpu'r blaned:

  • Yn 2021 gwnaethom ni osod 720 o baneli solar ar ein to. Ers hynny, maen nhw wedi cynhyrchu 440MWh o drydan gwyrdd, gan osgoi 290 o dunelli o CO2, sy'n cyfateb i: 

- teithio o amgylch y byd 56 o weithiau mewn car bach 

- plannu 23,255 o goed i echdynnu CO2 dros 10 mlynedd

Maen nhw hefyd yn cynhyrchu mwy na digon o ynni i bweru ein Theatr Donald Gordon dros y 25 mlynedd nesaf.

  • Mae 75% o'n goleuadau yn LEDs, gan arbed 60% o ynni
  • Mae 98% o'n gwerthiannau tocynnau nawr yn ddigidol, gan leihau'r angen am docynnau papur
  • Gwnaethom ni ailgylchu 70% o'n celfi wrth gwblhau ein swyddfeydd newydd drwy newid pen byrddau a gorchuddion cadeiriau yn hytrach na phrynu rhai newydd.

Mae ein mentrau eraill yn cynnwys ailddefnyddio ein setiau a'u hailgylchu lle y bo'n bosibl, lleihau gwastraff drwy ddefnyddio cynwysyddion bioddiraddadwy a gwneud yn siŵr bod gan unrhyw gyfarpar newydd rydyn ni'n ei brynu sgôr ynni uwch na'r blaenorol, gan olygu ein bod yn gwella ein defnydd o ynni yn barhaus. 

Gallwch chi ddarllen mwy am ein hymrwymiad amgylcheddol yn Cynaliadwyedd a'r Amgylchedd.