Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Ceisiadau cyllid Celfyddydau Ymdrochol yn agor

Yn galw pobl greadigol ac artistiaid – ymgeisiwch am grant o hyd at £50,000 i archwilio defnyddio technoleg ymdrochol yn eich gwaith. 

Mae Celfyddydau Ymdrocholrhaglen ledled y DU i gefnogi artistiaid i wneud a rhannu gwaith ymdrochol eithriadol, gyda Chanolfan Mileniwm Cymru yn bartner, wedi agor ceisiadau am ei rownd gyntaf o gyllid 

Mae grantiau ar gael fel rhan o'r prosiect tair blynedd, gyda'r nod o gefnogi dros 200 o artistiaid i archwilio posibiliadau technoleg ymdrochol ar gyfer eu hymarfer creadigol 

Bydd Celfyddydau Ymdrochol yn cynhyrchu rhaglen gyfoethog o gyfleoedd cynhwysol a hygyrch, gan chwalu'r rhwystrau sy'n atal artistiaid o bob cefndir rhag ymgysylltu ag offer ymdrochol 

Bydd artistiaid yn cael cyfle i gael mynediad at hyfforddiant, mentora, cyfleusterau arbenigol a chronfeydd hanfodol, gyda chyfanswm o £3.6 miliwn o gyllid grant ar gael rhwng 2024 a 2027 i roi syniadau ar waith a datblygu prosiectau presennol ymhellach. 

Pa grantiau sydd ar gael?

Gwahoddir artistiaid i wneud cais i un o dri llinyn ariannu gwahanol, pob un wedi'i gynllunio i gefnogi gwahanol gamau datblygu creadigol:

  • Archwilio (£5,000): Yn ddelfrydol ar gyfer unigolion, grwpiau bach neu sefydliadau (10 gweithiwr neu lai) sydd â phrofiad cyfyngedig neu ddim o gwbl yn y celfyddydau ymdrochol. Bydd y grant hwn yn galluogi artistiaid i archwilio technolegau ymdrochol, datblygu syniadau, profi gwaith, neu gwrdd â chydweithredwyr posibl.
  • Arbrofi (£20,000): Ar gyfer unigolion neu ficro-endidau (10 gweithiwr neu lai) i gefnogi creu gweithiau celf ymdrochol arbrofol neu brototeipiau y gellir eu profi gyda chynulleidfaoedd bach 
  • Ehangu (£50,000): Ar gyfer unigolion, micro-endidau neu sefydliadau (50 o weithwyr neu lai) sy'n edrych i ddatblygu prosiectau presennol i'w cam nesaf ar gyfer datblygu, profi neu gyflwyno 

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 2 Rhagfyr am hanner dydd. 

Y Tîm Celfyddydau Ymdrochol yng Nghanolfan Mileniwm Cymru

Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn bartner agos ar y prosiect Celfyddydau Ymdrochol, gan adeiladu ar ein gwaith ein hunain yn cynhyrchu ac arddangos profiadau ymdrochol yn ein lleoliad Bocs pwrpasol, sydd wedi cyflwyno gwaith ymdrochol arobryn a denu miloedd o ymwelwyr ers iddo agor yn 2022. 

Dywedodd Graeme Farrow, ein Prif Swyddog Creadigol a Chynnwys:

Rydym wedi gweld yn uniongyrchol sut mae cynulleidfaoedd yn cael eu hysbrydoli gan bosibiliadau diddorol y celfyddydau ymdrochol. Nawr ein her yw ysbrydoli artistiaid yn yr un modd, i greu gwaith yn y gofod technolegol hwn sy'n datblygu bob dydd; gan rhoi'r sgiliau, yr hyder a'r cyfle iddynt adrodd straeon swynol yn y ffyrdd newydd hyn.

"Rydym am weld llwyth o artistiaid o Gymru yn cymryd y cam i greu eu gwaith gan ddefnyddio technolegau realiti rhithiol, estynedig ac ymestynnol – efallai mewn ffyrdd nad ydym hyd yn oed wedi eu hystyried o'r blaen – fel y gallwn barhau i arddangos gwaith blaengar yn ein gofodau yn y dyfodol. Mae'r gronfa hon yn gyfle iddynt wneud hynny." 

Arweinir y prosiect Celfyddydau Ymdrochol gan UWE Bristol, gyda'r prif hwb yn Pervasive Media Studio ym Mryste, a Watershed fel Cynhyrchydd Gweithredol. Mae partneriaid eraill yn cynnwys Prifysgol Bryste a sefydliadau diwylliannol yn Belfast a Derry (Canolfan Nerve) a Glasgow (Cryptic). 

Bydd y rhaglen hyfforddi ac arddangos yn cael ei harwain gan Crossover Labs, gyda mewnbwn strategol gan UnlimitedInnovate UK Immersive Tech NetworkXR Diversity Initiative a Bwrdd Cynghori rhyngwladol.

Darperir cyllid ar gyfer Celfyddydau Ymdrochol drwy gydweithrediad rhwng Cyngor Ymchwil Celfyddydau a'r Dyniaethau UKRI (AHRC), Cyngor Celfyddydau Lloegr, Cyngor Celfyddydau Cymru (CCC), Creative Scotland a Chyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon (ACNI). Mae cyllid gan Creative Scotland, CCC ac ACNI yn cael ei ddarparu gan y Loteri Genedlaethol.