Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Meddyliau am Llais

Mae ein Prif Swyddog Creadigol a Chynnwys Graeme Farrow yn edrych nôl ar Llais eleni, ein gŵyl gelfyddydau ryngwladol. 

Am bump o’r gloch ar brynhawn dydd Sul, daeth Canolfan Mileniwm Cymru yn deml yn llawn caneuon wedi’u geni o gaethwasiaeth oedd yn addo iachawdwriaeth. Yn ystod Spirituals Le Gateau Chocolat – gwaith wedi’i greu a’i berfformio gydag Allyson Devenish a David McAlmont – cafwyd homili, galarnad, pregeth. Ar gyfer y casgliad, gofynnwyd i ni roi rhywbeth ohonon ni’n hunain yn y blwch. Ac fe wnaeth pawb hynny. Darllenodd Le Gateau Chocolat rai ohonyn nhw’n uchel. Nid cynulleidfa oedden ni, ond cymundeb. Gŵyl fel lle i gyfranogi ac ymgysylltu yw hon.

Rhwng 8 a 13 Hydref, mewn dinas a gwlad sydd wedi allforio cymaint o leisiau gwych i’r byd, dathlodd Canolfan Mileniwm Cymru y trydydd rifyn o Llais – yr ŵyl gelfyddydol ryngwladol flynyddol sydd wedi’i hysbrydoli gan yr un offeryn rydyn ni i gyd yn ei rannu. Mae’n un o gonglfeini gŵyl flaenllaw newydd tair wythnos o hyd, sef Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd.

Roedd canolfannau a gofodau’n atseinio gyda myrdd o leisiau byd-eang bendigedig – o deyrnged i David Crosby a ddaliodd gytgordiau cosmig Laurel Canyon ar ddechrau’r saithdegau, i fawredd côr Bwlgaraidd y cyfnod Sofietaidd, Le Mystère des Voix Bulgares, i leisiau indi taer fel SquidGeordie Greep a’r rhai sydd â’r weledigaeth i ddehongli traddodiadau hynafol, gan gynnwys Lisa O’Neill, Ganavya, Iarla Ó LionáirdThe Breath

Mewn ymddangosiad prin yng ngwledydd Prydain, bu’r ensemble digyfeiliant Sweet Honey In The Rock o’r Unol Daleithiau, yn cymuno yma hefyd, gan arwain y gynulleidfa mewn sesiwn o alw ac ymateb, a chanu a chlapio caneuon sydd wedi’u naddu o hanner canrif o ganu enaid ac ymgyrchu. Drws nesaf, fe fuon ni’n dathlu hanner can mlynedd a mwy o hanes diwylliannol lleol wrth i leisiau hen a newydd ail-fyw dyddiau penfeddwol sîn jazz Bae Caerdydd y ffrwydrodd Shirley Bassey ohoni. Fe fentron ni drwy ffync Somali gyda Sahra Halgan, a drwy roc anialwch Twareg gyda Bombino, sawru llais melfedaidd Joan As Police Woman, a gorffen mewn diweddglo dryslyd drydanol o farddoniaeth, gair llafar a chomedi gan gynnwys Sara Pascoe, Russell Tovey, Nadine Shah, Hollie McNish, Michel Pedersen, Joelle Taylor a Lady Leshurr.

Mae bod yn Gyfarwyddwr Creadigol y ganolfan gelfyddydau saith erw, pum lleoliad yma’n fraint ac yn her. Wrth i ni agosáu at yr ugainmlwyddiant, mewn cyfnod pan fo’r cyllid yn crebachu a’r biliau’n codi, rydyn ni’n cael ein hunain yn myfyrio’n ddwys ar swyddogaeth yr adeilad yma a phwy sy’n cael eu gwasanaethu ganddo. Wrth inni fynd i’r afael â’r cwestiynau yma, roedd Llais eleni’n cynnig ambell ateb grymus iawn. 

Mae Llais yn ŵyl wedi’i churadu sy’n mynd â chynulleidfaoedd i lefydd na fyddai’r algorithm yn mynd â nhw, gan gyflwyno cynulleidfaoedd Caerdydd i artistiaid na fydden nhw’n cael eu gweld fel arall, ac mae’n rhoi cyfle i artistiaid berfformio mewn dinas na fyddai’n ariannol hyfyw fel arall, a/neu wireddu prosiectau na allai ddigwydd yn unman arall. 

Dros bum diwrnod gwefreiddiol, daeth yn amlwg, fel mae adeilad y Ganolfan yn llawer mwy na swm ei neuaddau a’i gofodau, fod Llais yn llawer mwy na dim ond casgliad o gyngherddau. Mae'n fan ymgynnull i artistiaid a chynulleidfaoedd fel ei gilydd, i ddod ynghyd ac i rannu lleisiau. Mae Llais yn adleisio’r ffwrnais awen yng ngherdd Gwyneth Lewis sy’n addurno blaen copr y Ganolfan. 

Ein breuddwyd yw canolfan o gyfarfyddiadau diwylliannol, lle mae eiliadau annisgwyl o gysylltu’n bosib pan fydd cymaint o eneidiau dawnus a hael yn ymgynnull mewn un lle.

Wrth siarad ar y llwyfan am ei brofiad o ymarfer gyda Mike Scott, The Staves, Liam Ó Maonlaí, Kris Drever a band o sêr o dan arweiniad Kate St John cyn y perfformiad byw cyntaf erioed o gampwaith cosmig David Crosby 'If I Could Only Remember My Name', llwyddodd Liam Ó Maonlaí i grynhoi’r peth yn berffaith: 

“Rydyn ni wedi cael tri diwrnod hyfryd gyda’n gilydd. Wedi rhannu cymaint o straeon. Fe ddaeth ein holl straeon at ei gilydd mewn un stafell, i greu un stori fawr” 

Liam Ó Maonlaí

Canodd Ganavya, y gantores oruwchnaturiol o ddawnus sydd wedi’i thrwytho yn nhraddodiad Carnatig ei threftadaeth Tamilaidd, gân sean-nós roedd hi wedi’i hymarfer yng nghwmni neb llai na Iarla Ó Lionáird, un o fawrion y traddodiad Gwyddelig. 

Cafwyd première byd Llwch a Llechi Gwen Siôn, gwaith rhyfeddol o uchelgeisiol oedd yn llawn gweledigaeth, yn gyfrwng i lais gwlad a’i phobl. Roedd yn cymysgu recordiadau maes wedi’u recordio ym mynyddoedd y gogledd, recordiadau archif epig o waith chwarelyddol ar ddechrau’r ugeinfed ganrif, offerynnau wedi’u creu â llaw o ddarnau o lechi a brigau ywen, cerddorfa deg darn a chôr meibion chwarel. 

Yng ngeiriau Gwen ei hunan, roedd comisiwn Llais yn drawsnewidiol iddi fel cyfansoddwr, gan ei galluogi i roi cynnig ar ffyrdd newydd o weithio a thoi ei syniadau’n rhywbeth mwy fyth. 

“Mae cael gwireddu’r syniad yma, a’i berfformio’n fyw gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a Chôr y Penrhyn wedi bod yn brofiad anhygoel.” 

Gwen Siôn

I'r artist, cyfle i wireddu breuddwyd. I gynulleidfaoedd, lle i weld geni rhywbeth hollol newydd gan artist ar adeg dyngedfennol yn ei gyrfa. 

Os buodd yna unrhyw amheuaeth erioed ynghylch beth yw pwrpas gwyliau, neu beth mae Canolfan Mileniwm Cymru yn ei wasanaethu wrth i ni edrych tuag at ei dyfodol, allen ni ddim fod wedi’i roi’n well na Rogue Jones, enillwyr y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2023, fuodd yn perfformio yn Llais.

“Mae Llais yn arbennig iawn ac yn bodoli mewn gofod sydd mor hanfodol yn niwylliant Cymru. Mae’n gydwladol, yn feiddgar, yn ddewr ac yn greadigol – a dyna’r Gymru rydw i eisiau i ni fod.” 

Rogue Jones

Fodd bynnag, mae’r gair ola’n mynd i’r gantores-gyfansoddwraig o Awstralia Gina Williams a ddaeth yn ôl i Gaerdydd—sydd fel rhyw fath o ail gartref iddi—gyda’i phartner Guy Ghouse. Fe gawson nhw’u cyfarch gan 150 o blant ysgol gynradd, i gyd yn canu yn iaith frodorol Gina, sef Noongareg, iaith nad oes dim ond 400 o bobl yn y byd yn ei siarad. I Gina, roedd hon yn foment fawr o gysylltiad diwylliannol. Fel y dywedodd hi mor deimladwy: 

“Un hanfod ydyn ni; ar ryw adeg, roedden ni i gyd o gwmpas yr un goelcerth. Dim ond ceisio gwneud ein ffordd yn ôl rydyn ni. A’r tameidiau bach yma o hud sy’n rhoi gobaith inni.” 

Gina Williams

Gallwch chi gael y newyddion diweddaraf am bopeth yn ymwneud â Llais drwy ein dilyn ni ar y cyfryngau cymdeithasol: Facebook, X / Twitter (Cym), X / Twitter (Saes) ac Instagram  a chofiwch gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr i fod ymhlith y cyntaf i glywed pryd bydd gŵyl 2024 yn mynd ar werth.