Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Dewch â hwyl i'r dysgu gyda'n pecynnau sydd wedi'u hysbrydoli gan sioeau i'w defnyddio yn yr ystafell ddosbarth a'r cartref.

Crëwyd y pecynnau dysgu yma er mwyn rhoi cipolwg i chi ar bynciau a genres amrywiol, ac maen nhw'n addas i bob oed.

PECYN DYSGU THEATR GERDDOROL

Mae Theatr Gerddorol yn genre eang sydd â llawer o feysydd gwahanol i’w harchwilio. Mae'r pecyn yma'n edrych ar rai o sioeau cerdd gorau ein cyfnod, ar Gymru yn y West End ac ar waith rheolwr llwyfan.

PECYN DYSGU CAPE TOWN

Ysbrydolwyd y pecyn yma gan waith Opera Cape Town, ac mae'n edrych ar eu gwaith, ar Nelson Mandela ac ar system Apartheid yn Ne America.

Mae'n cynnwys gwybodaeth sy'n addas i blant ysgol gynradd a phobl ifanc ysgol uwchradd, ac mae hefyd yn cynnwys adran Dysgu Gydol Oes.

Mae yno hefyd awgrymiadau o weithgareddau ysgol ar gyfer y Cyfnod Sylfaen hyd at Gyfnod Allweddol 4, er mwyn helpu athrawon i ddod â'r pynciau yma'n fyw.