Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Dros y blynyddoedd diwethaf rydyn wedi bod yn arwain gweithdai blasu, Hybs i Artistiaid a digwyddiadau Hac Bywyd yng Nghymoedd y Rhondda. Dewch i ymuno â ni...

Beth allwch chi ei wneud?

  • Sesiynau blasu drama, canu, syrcas, arwain (MC) a mwy
  • Dysgu am gyflwyno radio a chynhyrchu gyda Radio Platfform, ein gorsaf radio a arweinir gan bobl ifanc.
  • Hac Bywyd: Ymunwch â ni am ddiwrnod yng nghwmni arbenigwyr y diwydiant.
  • Tooling Up: Gweithio tu ôl i’r llen ar gynyrchiadau theatr broffesiynol.
  • Rhowch gynnig ar un o’n cyrsiau Llais Creadigol am ddim.
  • Ymunwch gyda’n grŵp llywio a chymerwch ran yn rhai o’r penderfyniadau.

Molly Palmer, Cydlynydd Gorsaf sy’n rhedeg ein hyfforddiant Radio Platfform am ddim yn ein chwaer orsaf yn y Ffatri yn Porth.

Yn 2021 fe gyflwynwyd Ymyriadau Pwerus gennym, mae’n gomisiwn cyffrous wedi ei arwain gan yr ifanc, gyda phobl ifanc a gweithwyr ifanc o’r celfyddydau yn creu a chasglu perfformiadau mewn amryw o ffyrdd celfyddydol i’w harddangos yma yn ystod ein Gŵyl Gelfyddydol Ryngwladol flynyddol.

Os ydych chi rhwng 11-25 oed ac yn edrych am rywle yng nghymoedd de Cymru i fod yn greadigol, datblygu sgiliau newydd a pharatoi eich hun am ddyfodol disglair, mae Yn Gryfach Ynghyd ar eich cyfer chi.

Diddordeb mewn cymryd rhan? Cysylltwch â ni drwy e-bostio togetherstronger@wmc.org.uk

Mae Yn Gryfach Ynghyd yn bartneriaeth rhwng Valleys Kids a Chanolfan Mileniwm Cymru, wedi’i gynllunio i ddarparu cyfleoedd creadigol i bobl ifanc yn y Cymoedd, gyda chefnogaeth gan y Paul Hamlyn Foundation. Wedi’i ddarparu gan Sparc a’n tîm Dysgu Creadigol.