Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Platfform

Gwneuthurwyr Theatr: Cwrs Cyfarwyddwyr

18 – 25 oed

Canolfan Mileniwm Cymru

6 – 7 Awst 2024

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Gwneuthurwyr Theatr: Cwrs Cyfarwyddwyr {{::on_sale_date.label}} Canolfan Mileniwm Cymru MM/DD/YYYY 15 event-2348

Platfform

Gwneuthurwyr Theatr: Cwrs Cyfarwyddwyr

18 – 25 oed

6 – 7 Awst 2024

Canolfan Mileniwm Cymru

Wyt ti’n gyfarwyddwr theatr awyddus rhwng 18 a 25 oed sy’n frwdfrydig dros adrodd straeon ac sydd â gweledigaeth ar gyfer y llwyfan? Mae ein cwrs Cyfarwyddwyr Theatr newydd wedi’i gynllunio i ti.

Plymia i mewn i fyd cyfarwyddo a dere â dy syniadau creadigol yn fyw o dan arweiniad arbenigol Dr Sita Thomas.

Beth i’w ddisgwyl:

- Technegau Cyfarwyddo: Meistrola hanfodion cyfarwyddo, gan gynnwys dadansoddi sgript, blocio a rheoli actorion

- Gweledigaeth Greadigol: Datblyga dy arddull cyfarwyddo unigryw a dy weledigaeth artistig

- Arweinyddiaeth: Perffeithia dy sgiliau arwain a chyfathrebu i arwain dy gast a chriw yn effeithiol

- Datblygiad Proffesiynol: Datblyga dy ddoniau cyfarwyddo i ddangos datblygiad proffesiynol parhaus i gyflogwyr a chydweithwyr yn y dyfodol

- Mentora Arbenigol: Dysga gan y cyfarwyddwr theatr Dr Sita Thomas a fydd yn dy fentora di drwy gydol y cwrs

- Dysgu Cydweithredol: Gweithia gyda dy gyd-wneuthurwyr theatr ifanc i greu syniadau dynamig

- Cipolwg ar y Diwydiant: Dysga am gyfleoedd sydd ar y gweill o fewn y diwydiant theatr er mwyn cymryd rhan ynddyn nhw

Pam dewis ein rhaglen?

Nod ein rhaglen Gwneuthurwyr Theatr yw meithrin y genhedlaeth nesaf o weithwyr theatr proffesiynol. Rydyn ni’n darparu amgylchedd cefnogol a chreadigol lle mae cyfarwyddwyr ifanc yn gallu arbrofi, dysgu a thyfu. P’un a wyt ti eisiau dechrau gyrfa mewn theatr neu archwilio dy frwdfrydedd dros gyfarwyddo, mae ein cwrs yn cynnig y llwyfan perffaith i gyflawni dy amcanion.

Pwy all wneud cais?

- Rhwng 18 a 25 oed

- Brwdfrydig dros theatr ac adrodd straeon

- Profiad blaenorol ym maes theatr

Pwy sy'n addysgu'r cwrs?

Dr Sita Thomas yw cyfarwyddwr artistig a CEO cwmni theatr Fio yng Nghaerdydd www.wearefio.org.uk. Mae Sita yn frwdfrydig am hyrwyddo a chreu cyfleoedd i bobl greadigol Mwyafrif Byd-eang. Mae ei gwaith yn amlddisgyblaethol, sy’n aml yn cynnwys symud, cerddoriaeth fyw a chelf. Mae Sita yn dwli ar greu gwaith mewn mannau anghonfensiynol, fel parciau sglefrio, ceginau, grisiau Eglwys Gadeiriol Coventry, yn yr awyr agored mewn gerddi a pharciau neu ar strydoedd Brick Lane.

Mae ei huchafbwyntiau diweddar yn cynnwys, fel cyfarwyddwr: The Way I Play (BBC Cymru), They Don’t Teach Boys How To Grieve In This Town (Canolfan Mileniwm Cymru), The Walk with Little Amal (Coventry), The Shoemaker (Opera Cenedlaethol Cymru), The House of Jollof Opera (Music Theatre Wales, Fio); fel Cyfarwyddwr Symud: Brown Boys Swim (The North Wall, Soho Theatre, enillydd Fringe First); fel Cyfarwyddwr Staff: Top Girls (National Theatre). Mae Sita yn hwyluso cyrsiau, gweithdai a phaneli yn rheolaidd, ac mae wedi creu ac arwain y rhaglenni datblygu artistiaid Arise – Wales Creatives (Canolfan Mileniwm Cymru, S4C, BBC Audio, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Fio) a Rhaglen Cyfarwyddwyr Tamasha.

Hyfforddodd Sita ar Gwrs Cyfarwyddwyr y National Theatre (2022). Mae gan Sita PhD o Brifysgol Warwick a gradd Meistr mewn Cyfarwyddo Symud o Royal Central School of Speech and Drama. Mae’n ymddiriedolwr Emergency Exit Arts ac yn gyn-ymddiriedolwr yr Young Vic. Bu Sita yn gyflwynydd teledu plant ar milkshake! ar Channel 5 (2015–2023). Mae rhagor o wybodaeth yma: www.sitathomas.com a @sitathomas5

PRYD MAE’R CWRS?

6 + 7 Awst, 11 – 5pm

SUT YDW I’N ARCHEBU?

Archeba dy le drwy glicio ar y botwm archebu ar y dudalen yma. Gwna'n siŵr dy fod yn gallu dod i bob sesiwn o’r cwrs dros y chwe wythnos.

Os yw’r cwrs yma wedi gwerthu allan, ychwanega dy fanylion at ein rhestr aros a byddwn ni mewn cysylltiad os bydd lle ar gael.

EIN CYRSIAU PLATFFORM

Rhaglen hyfforddi unigryw yw Platfform sy’n cynnig llwyfan i bobl ifanc archwilio eu diddordebau, mynegi eu hunain, meithrin hyder creadigol a rhannu eu naratif drwy ddysgu ymarferol.

Caiff y gweithgaredd yma ei ariannu gan Sefydliad Moondance, Sefydliad Garfield Weston, Ymddiriedolaeth Elusennol Simon Gibson ac Ymddiriedolaeth Elusennol Mary Homfray.

Cyflwynir yn

Canolfan Mileniwm Cymru