Mae’n amser parti a dyma wahoddiad i chi! Dewch i’n gig a’n noson glwb gyntaf erioed!
Ymunwch â ni am gymysgedd enfawr o gerddoriaeth gan gerddorion dawnus o Gymru sy’n rhan o Bwthyn Sonig.
Bydd bandiau, perfformiadau unigol, DJs, a’r prif act Electric Fire.
Bydd gennym leoliad celf tawelach hefyd ar gyfer ymlacio, reit drws nesa yn Stiwdio Scratch, gyda chelf a cherddoriaeth gan Two Rhythms.
Electric Fire
Electric Fire yw Alicia (llais), Ehima (drymiau, offerynnau taro a llais), Sam (synths a llais) a William (gliniadur, cynhyrchu a llais). Mae’r band wedi esblygu i fod yn act fyw anhygoel, gan berfformio ar lwyfannau o Hong Kong i Amsterdam, Llundain i Baris. Yn llawn clasuron a naws diddiwedd, does dim byd yn stopio Electric Fire. Dewch i ddawnsio!
Bwthyn Sonig Collective
Band newydd gyda Michael Allcock, Nicole Bird, DJ Caberte, Teifi Emerald, Siân Fouladi, Tom Haycox, Simon Richards, Geraint Stewart-Davies a John Thomas.
Anarchy Wølf
Llŷr Griffiths
Bwthyn Sonig DJs
Bwthyn Sonig
Bwthyn Sonig yw partneriaeth Tŷ Cerdd i weithio gyda, a galluogi, crewyr cerddoriaeth ag anabledd dysgu – sy’n cael ei redeg mewn partneriaeth â Chanolfan Gerdd William Mathias (Caernarfon), Two Rhythms (Caerdydd), Gig Buddies, a’r artistiaid arweiniol Teifi Emerald, John Thomas ac Elin Taylor, yn ogystal â phartner o Glasgow sef Sonic Bothy gyda Rosey Brown fel rheolwr y prosiect.
Amser dechrau: 7.30pm, drysau 6.30pm
Oed: 12+
Mynediad
Mae seddi a lefydd i sefyll yn Cabaret – rhowch wybod i ni os hoffech i ni gadw seddi i chi.
Bydd amddiffynwyr clustiau a sbectol haul ar gael i chi eu benthyg, neu blygiau clust y gallwch chi eu cadw.
Bydd delweddau gweledol, goleuadau symudol a lliwgar i helpu i gyfleu teimlad y gerddoriaeth.
Bydd gennym leoliad celf tawelach hefyd ar gyfer ymlacio, gyda chelf a cherddoriaeth gan artistiaid Two Rhythms.
Os oes gennych unrhyw anghenion mynediad penodol yr hoffech i ni wybod amdanynt, cysylltwch â ni: enquiries@tycerdd.org
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.