Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Platfform

Sesiwn Castio Agored Next Up Academy

16 – 25 oed

Canolfan Mileniwm Cymru

7 Medi 2024

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Sesiwn Castio Agored Next Up Academy {{::on_sale_date.label}} Canolfan Mileniwm Cymru MM/DD/YYYY 15 event-2356

Platfform

Sesiwn Castio Agored Next Up Academy

16 – 25 oed

7 Medi 2024

Canolfan Mileniwm Cymru

Dyma dy gyfle i ymuno â Next Up Academy, cwmni perfformio arloesol sy’n cyfuno hip hop a theatr i uwchraddio lleisiau pobl ifanc, herio canfyddiadau a dod â materion cymdeithasol cyfredol i’r rheng flaen.

Eleni rydyn ni’n cynnal sesiwn castio agored i ddewis uchafswm o 15 o bobl ifanc a fydd yn ffurfio ein cwmni craidd ar gyfer 2024/25. Yn y sesiwn castio byddi di’n cael cyfle i weithio gyda hwyluswyr o’r radd flaenaf o’r byd hip hop a theatr.

Rydyn ni’n chwilio am bobl ifanc 16–25 oed sydd:

  • Â chefndir mewn ‘djing’ / graffiti / ‘mcing’ / brecddawnsio
  • Â chefndir mewn cerddoriaeth / theatr/ dawns / gair llafar
  • O gefndir Du, Asiaidd neu ethnig amrywiol
  • O unrhyw grŵp arall a ymyleiddiwyd

Os cei di dy ddewis i ymuno â Next Up Academy, bydd angen i ti ymrwymo i bob ymarfer a fydd yn cael ei gynnal ar nos Lun 6pm–8pm yn ogystal â phenwythnosau achlysurol cyn y perfformiad (ar 27 Ebrill 2025) felly dylet ti ond wneud cais os wyt ti ar gael.

Oes gen ti unrhyw gwestiynau am y sesiwn castio agored neu Next Up Academy?

E-bostia addysg@wmc.org.uk

Rydyn ni’n edrych ymlaen at gwrdd â ti!

Cyflwynir yn

Canolfan Mileniwm Cymru

Platfform

Gweld popeth

Platfform

Gwneuthurwyr Theatr: Ymladd Llwyfan

14 – 25 oed

Platfform

Sesiwn Castio Agored Next Up Academy

16 – 25 oed