Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Mae gan Copr, ein lolfa gynnes, soffistigedig, breifat i aelodau, ei bar ei hun a thoiledau neillryw.

Gyda’i dodrefn a wnaed â llaw, tecstilau prydferth gan ddylunwyr o Gymru a’i goleuo cynnil, atmosfferig, mae Copr yn lleoliad perffaith ar gyfer derbyniad, cinio hamddenol, parti ar ôl sioe neu fel lleoliad ffilmio. Mae’n agos i Theatr Donald Gordon, Ystafell Japan ac Ystafell Preseli, felly mae’n hawdd ei defnyddio cyn neu ar ôl y prif ddigwyddiad. 

Gwybodaeth bwysig

Capasiti:  
Yn sefyll:  30  
Yn eistedd:  22
 
Dimensiynau:  118m2
   
Cyfleusterau technegol:  Wi-Fi. Sgriniau teledu gyda’r gallu i gyflwyno PowerPoint. 
Cyfleusterau eraill a hygyrchedd:  Mynediad drwy lifft i’r llawr cyntaf.
 Toiledau preifat ac ardal bar.