Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Croeso

Mae Canolfan Mileniwm Cymru yng nghalon Bae Caerdydd, yn edrych allan tuag at Benarth, wedi’i lleoli drws nesaf i’r Senedd. Bob blwyddyn rydyn ni’n denu dros 1.4 miliwn o ymwelwyr, gyda nifer helaeth ohonynt yn dod i un o’r cynyrchiadau theatraidd hudol, gwyliau, sioeau cabaret, gweithdai creadigol neu brofiadau digidol rydyn ni’n eu cynnig. Mae eraill yn dod drwy ein drysau i gyfarfod ffrindiau a chydweithwyr yn Ffwrnais, ein bar-caffi newydd, neu’n galw heibio ar gyfer ymarfer neu gyfarfod sgript greadigol. Mae ein hadeilad yn hafan greadigol fyrlymus sy’n cynnig awyrgylch unigryw ar gyfer unrhyw ddigwyddiad. 

Lawrlwythwch ein taflen Mannau i'w Llogi [PDF]

Cysylltwch â ni drwy e-bostio spaces@wmc.org.uk

O’r prif awditoriwm lle mae perfformiadau gwefreiddiol y gorffennol yn creu naws hudolus, i Cabaret, ein lleoliad unigryw a chlyd, a’n cynteddau lle mae arysgrif eiconig ein hadeilad yn pefrio yn y cefndir, mae gennym ni’r mannau perffaith i sicrhau bod eich digwyddiad yn un cofiadwy ac arbennig. Rydyn ni’n cynhyrchu miloedd o ddigwyddiadau bob blwyddyn, a bydd eich un chi mewn dwylo diogel diolch i gefnogaeth dechnegol a TG ar y safle a staff profiadol a gwybodus. 

Rhowch brofiad gwbl unigryw i’ch gwesteion. Mae gennym ni olygfeydd ysblennydd, awditoriwm trawiadol, steil soffistigedig a llond lle o hwyl, personoliaeth a hud. 

 

A wyddoch chi... 

  • Rydyn ni’n gweithio’n galed i gyrraedd ein targed sero net a dod yn fwy cynaliadwy. Rydyn ni wedi gosod paneli solar sy’n pweru ein prif lwyfan drwy gydol y flwyddyn, yn darparu cwpanau amldro a thocynnau digidol ac rydyn ni’n rhan o’r rhwydwaith  gwresogi ardal.  
  • Rydyn ni’n elusen, sy’n golygu bod eich arian yn ein helpu ni i feithrin artistiaid a phobl ifanc yng Nghymru.  
  • Mae yna gysylltiadau trafnidiaeth gwych i Fae Caerdydd yn ogystal â meysydd parcio a gwestai. 
  • Mae taith mewn cwch i weld golygfeydd ysblennydd y Bae yn ffordd wych o dreulio amser gyda’ch tîm neu’n syniad da ar gyfer sesiynau rhwydweithio. 
  • Mae Bad Wolf, BBC, ITV a llawer o gwmnïau eraill wedi ffilmio golygfeydd yma. 
  • Mae ein hadeilad 7.5 erw yn grochan o berfformiadau hudolus, lle mae sêr y West End yn camu i’r llwyfan yn wythnosol. 
  • Rydyn ni’n cynnig teithiau cefn llwyfan yn ychwanegol fel bod cyfle i’ch gwesteion deimlo gwefr yr adeilad yn ei holl ogoniant. 

Cabaret

Ar benwythnosau, mae Cabaret yn lleoliad disglair a phwrpasol ar gyfer ein rhaglen o ddrag, bwrlésg, comedi, theatr gig a cherddoriaeth fyw. Wedi’i gynllunio i greu profiadau agos-atoch, hygyrch a chofiadwy, mae gan bawb olygfa dda o’r 150 o seddi sy’n amgylchynu’r llwyfan, ac mae bar gwbl weithredol yno. 

Dysgwch fwy am Cabaret

YSTAFELL JAPAN

Mae ein prif ystafell bwrdd ac ardal ar gyfer digwyddiadau preifat wedi’i lleoli ar y mesanîn ar Lefel 3. Mae Ystafell Japan yn fawr ac yn olau, gyda balconi sy’n edrych dros rai o brif dirnodau Caerdydd, sy’n ei gwneud yn berffaith ar gyfer cyfarfodydd bwrdd a chynadleddau bychain.

Dysgwch fwy am Ystafell Japan

YSTAFELL PRESELI

Mae ei chyfuniad o ofod a golau yn gwneud Ystafell Preseli yn ddelfrydol ar gyfer digwyddiadau preifat a chorfforaethol.

Dysgwch fwy am Ystafell Preseli 

Ffwrnais

Mae ein bar-caffi a weddnewidiwyd yn ddiweddar yn ymestyn ar hyd blaen yr adeilad. Yn olau, eang a soffistigedig, mae Ffwrnais yn cynnig y cynnyrch gorau o bob rhan o Gymru.

Dysgwch fwy am Ffwrnais

COPR

Mae gan Copr, ein lolfa gynnes, soffistigedig, breifat i aelodau, ei bar ei hun a thoiledau neillryw.

Dysgwch fwy am Copr

Glanfa

Glanfa yw ein man cyhoeddus mwyaf, ac fe’i defnyddir ar gyfer ystod eang o berfformiadau, digwyddiadau, gosodweithiau celf, gweithgareddau crefft i’r teulu ac arddangosfeydd am ddim, ond mae hefyd yn ardal berffaith ar gyfer derbyniadau, ciniawau, arddangosfeydd a lansiadau preifat.

Dysgwch fwy am Glanfa

STIWDIO WESTON

Mae Stiwdio Weston yn lleoliad clyd sy’n berffaith ar gyfer cynyrchiadau bychain, theatr arobryn a cherddoriaeth fyw wych. 

Dysgwch fwy am Stiwdio Weston

YSTAFELLOEDD YMARFER

Mae ystafelloedd ymarfer Canolfan Mileniwm Cymru yn cynnig lle, amlbwrpasedd a hygyrchedd. Defnyddir y ddwy ystafell gan gwmnïau cynhyrchu mawr, megis Opera Cenedlaethol Cymru, ac fe ellir eu trawsnewid ar gyfer llawer o ddibenion gwahanol.   

Dysgwch fwy am ein hystafelloedd ymarfer

THEATR DONALD GORDON

Theatr Donald Gordon, ein prif fan perfformio, yw ail lwyfan mwyaf Ewrop, ac mae ymhlith theatrau gorau’r byd. Mae’n croesawu sioeau theatr gerdd o’r radd flaenaf, sydd wedi ennill gwobrau, yn syth o’r West End, ac mae’n llwyfan i berfformiadau pwerus Opera Cenedlaethol Cymru, yn ogystal â dawns, drama a mwy. Mae’r awditoriwm o safon fyd-eang yn lleoliad godidog ar gyfer digwyddiadau corfforaethol a phreifat ac mae’n sicr o gynnig profiad cofiadwy i’ch gwesteion

Dysgwch fwy am Theatr Donald Gordon