Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Theatr Donald Gordon, ein prif fan perfformio, yw ail lwyfan mwyaf Ewrop, ac mae ymhlith theatrau gorau’r byd.

Mae’n croesawu sioeau theatr gerdd o’r radd flaenaf, sydd wedi ennill gwobrau, yn syth o’r West End, ac mae’n llwyfan i berfformiadau pwerus Opera Cenedlaethol Cymru, yn ogystal â dawns, drama a mwy. Mae’r awditoriwm o safon fyd-eang yn lleoliad godidog ar gyfer digwyddiadau corfforaethol a phreifat ac mae’n sicr o gynnig profiad cofiadwy i’ch gwesteion.

Mae Theatr Donald Gordon wedi croesawu rhai o ddigwyddiadau mwyaf Cymru, megis ciniawau gwobrau, cyfarfodydd blynyddol, cynadleddau, seremonïau graddio ac arddangosfeydd, ac maehefyd wedi cael ei defnyddio ar gyfer lleoliad ffilmio ar gyfer cynyrchiadau ffilm a theledu pwysig.

Mae’r profiad o gynnal cinio ar y llwyfan – gyda holl oleuadau’r awditoriwm yn pefrio – yn brofiad wirioneddol arbennig, lle gall gwesteion ddilyn yn ôl traed llawer o berfformwyr byd-enwog.

Gwybodaeth bwysig

Capasiti:  

Theatr/maint yr awditoriwm: 

 1897

Derbyniad ar y llwyfan:

 700  

Gwledd ar y llwyfan:

 550  

Cabaret ar y llwyfan:

 450

Ystafell ddosbarth ar y llwyfan:

400

 
Dimensiynau’r llwyfan:  1024m2
   
Cyfleusterau technegol:  Wi-Fi. Llwyfan, system sain a goleuo.
Cyfleusterau eraill a hygyrchedd:

Mae bariau a thoiledau yn agos i’r Theatr Donald Gordon ar bob lefel. Mae 22 o lefydd i gadeiriau olwyn yn yr awditoriwm ac mae toiledau hygyrch ar bob llawr. Gellir cyrraedd pob lefel o’r theatr mewn lifft, ac mae hefyd gennym system dolen sain a chyfleusterau capsiynu.