Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Glanfa yw ein man cyhoeddus mwyaf, ac fe’i defnyddir ar gyfer ystod eang o berfformiadau, digwyddiadau, gosodweithiau celf, gweithgareddau crefft i’r teulu ac arddangosfeydd am ddim, ond mae hefyd yn ardal berffaith ar gyfer derbyniadau, ciniawau, arddangosfeydd a lansiadau preifat.

Yn unol â’i enw, mae Glanfa yn gweddu’n berffaith i’w safle ger y glannau, ac mae’n lleoliad unigryw ar gyfer eich digwyddiad. 

Gall Glanfa ddarparu ardal giniawa neu seremoni wobrwyo gyfareddol ar gyfer hyd at 350 o westeion, derbyniad i 500 neu gellir hyd yn oed ei weddnewid yn lleoliad anhygoel ar gyfer ffilmio. Mae un peth yn sicr, beth bynnag yw’r digwyddiad, mi fydd yn hollol odidog yn Glanfa.  

Gwybodaeth bwysig

Capasiti:
Theatr:  350  
Derbyniad:  500
Gwledda:  350
   
Dimensiynau:  688m2 
 
Cyfleusterau technegol:  Wi-Fi. Llwyfan, desg sain a sgriniau teledu bychain  
Cyfleusterau eraill a hygyrchedd:  Mae ein prif doiledau gerllaw.