Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Ar benwythnosau, mae Cabaret yn lleoliad disglair a phwrpasol ar gyfer ein rhaglen o ddrag, bwrlésg, comedi, theatr gig a cherddoriaeth fyw. Wedi’i gynllunio i greu profiadau agos-atoch, hygyrch a chofiadwy, mae gan bawb olygfa dda o’r 150 o seddi sy’n amgylchynu’r llwyfan, ac mae bar gwbl weithredol yno. 

Gyda llwyfan unigol, desg sain a goleuo parhaol, yn ogystal â llenni sy’n gallu cael eu hagor yn llawn i ddangos golygfeydd gogoneddus o’r Senedd a’r bae, mae’r gofod amlbwrpas yma yn berffaith ar gyfer sesiynau yoga neu ddosbarthiadau babanod wythnosol, cynadleddau, lansiadau brandiau, partïon pen-blwydd, arddangosfeydd a mwy. Wedi’i leoli ar hyd terfyn yr adeilad, mae gan Cabaret ei fynedfa a ffasâd ei hun, ystafell gotiau, toiledau neillryw ac ystafell wisgo i 3–6 person gyda chawodydd cyfagos. 

Mae dyluniad bywiog a chreadigol gan Cabaret, sy’n berffaith ar gyfer delweddau Instagram, ac mae’n gwneud y gofod yn berffaith ar gyfer derbyniadau a digwyddiadau rhwydweithio. 

Gwybodaeth bwysig

Capasiti:  
Yn sefyll:  200  
Theatr:  150  
Cabaret:  150  
Dimensiynau:  330m2 
Arlwyo: Bar cwbl weithredol gyda’r gallu i archebu drwy god QR ar gaelArlwyo ar gontract allanol.  
Cyfleusterau technegol:  Wi-Fi, llwyfan, goleuo a rig sain. 
Cyfleusterau eraill a hygyrchedd:  Toiledau neillryw ac ystafell gotiau.