Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Mae ein prif ystafell bwrdd ac ardal ar gyfer digwyddiadau preifat wedi’i lleoli ar y mesanîn ar Lefel 3.

Mae Ystafell Japan yn fawr ac yn olau, gyda balconi sy’n edrych dros rai o brif dirnodau Caerdydd, sy’n ei gwneud yn berffaith ar gyfer cyfarfodydd bwrdd a chynadleddau bychain.

Mae toiledau gerllaw ac ardal y tu allan i’r ystafell ar gyfer gosod arlwyaeth. Gellir hefyd llogi Copr, ein lolfa breifat i aelodau ar Lefel 1, ar gyfer cinio neu ddiodydd ar ôl y cyfarfod. 

Gwybodaeth bwysig

Capasiti:
Yn sefyll/lletygarwch:  45   
Theatr:  70
Cabaret:  40
Ystafell Bwrdd:  24
 
Dimensiynau:  74m2 
 
Cyfleusterau technegol:

 Wi-Fi a sgrin arddull cynhadledd gyda 
 thracio fideo o gynrychiolwyr yn yr ystafell. 

Cyfleusterau eraill a hygyrchedd:  Mynediad drwy lifft i’r trydydd llawr.
 Mae toiled i bobl anabl drws nesaf.