Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Mae ei chyfuniad o ofod a golau yn gwneud Ystafell Preseli yn ddelfrydol ar gyfer digwyddiadau preifat a chorfforaethol.

Rydyn ni’n ei defnyddio’n bennaf fel ystafell ymarfer ac ar gyfer creu gwaith artistig newydd. Gyda’r gwaith celf arbennig ‘Colourfall’ gan yr artist o Gymru, Amber Hiscott, yn rhan ohoni, mae wal wydr yr ystafell yn gadael i olau lifo i mewn o’r ardal Angorfa islaw, yn ogystal â golau naturiol o ffenestri allanol yr ystafell. 

Dyma ein hystafell gyfarfod fwyaf, ac mae hi wedi’i lleoli ar Lefel 2, gerllaw ein Bar Awen, sydd dan arysgrif yr adeilad. Y lle perffaith am ginio neu ddiodydd ar ddiwedd y dydd, a lleoliad da i roi standiau arddangoswyr sy’n gysylltiedig â chynhadledd.  

Gwybodaeth bwysig

Capasiti:
Theatr:  130
Derbyniad:  80
Gwledda:  80
Cabaret:  70
Ystafell Bwrdd:  30
Ystafell Ddosbarth:  28
Dimensiynau:  Hyd: 13.9m
 Lled (pen cul): 7.92m
 Lled (pen llydan): 11m
Cyfleusterau technegol:  Wi-Fi. Gellir gosod llwyfan bach, darllenfa,  system PA a sgrin yn yr ystafell fel sydd angen. 
Cyfleusterau eraill a hygyrchedd:  Mynediad drwy lifft i’r ail lawr.