Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Mae Stiwdio Weston a’r Ystafelloedd Ymarfer yn lleoliadau clyd sy’n berffaith ar gyfer cynyrchiadau bychain, theatr arobryn a cherddoriaeth fyw wych.

Mae’r gofodau amlbwrpas yma hefyd yn boblogaidd iawn fel lleoliadau ar gyfer digwyddiadau corfforaethol, gan gynnwys cynadleddau, arddangosfeydd a chyfarfodydd blynyddol sy’n manteisio ar yr awyrgylch, yr acwsteg wych a’r gefnogaeth AV o’r radd flaenaf. Pan fo’r seddi wedi’u tynnu a’u cadw, mae llawr y stiwdio yn mesur 318m² ac fe ellir ei defnyddio ar gyfer cyfarfodydd a phrydau gyda seddi wedi’u gosod mewn arddull cabaret.

Mae’r Ystafelloedd Ymarfer gerllaw yn cynnig gofodau gwych ar gyfer arddangosfeydd, sesiynau grŵp neu arlwyo. Maen nhw'n cysylltu â’i gilydd ar hyd Lefel 1, uwchben Glanfa.

Gwybodaeth bwysig

Capasiti:  
Theatr:  250 gyda lle i bedwar person sy’n defnyddio cadair olwyn
 (gyda lle i ddau gymar yr un) yn yr ardal wastad cyn y rhes gyntaf.                                                
        
 
Derbyniad:  200  
Gwledda:  200  
Cabaret:  200

Ystafell ddosbarth:

 60
 
Dimensiynau:  1021m2
   
Cyfleusterau Technegol:  Wi-Fi. Llwyfan, desg sain a sgriniau teledu bychain.  
Cyfleusterau eraill a hygyrchedd:

 Mynediad drwy lifft i’r llawr cyntaf.
 Mae toiled i bobl anabl drws nesaf.
 Mae ein prif doiledau yn agos, ar y llawr gwaelod.