Rhowch theatr fyw yn anrheg y Nadolig yma.
Rydyn ni’n eich helpu chi i ddod o hyd i’r anrheg berffaith i rywun sy’n dwli ar y theatr gyda’n 8 Rhodd ar gyfer y Nadolig. Mae tocynnau yn rhoi dwywaith y cyffro –ar ddydd Nadolig a phan fydd hi’n amser gweld y sioe. Parhewch i ddarllen i ddarganfod sioeau i’r teulu cyfan, dramâu arobryn, sioeau cerdd yn llawn anthemau pop, ffenomena diwylliannol a ballet syfrdanol.
& Juliet
16 – 28 Mehefin 2025
Dewch ar daith anhygoel wrth i Juliet gefnu ar ei diweddglo enwog i gael dechreuad newydd a chyfle arall i fyw a syrthio mewn cariad – yn ei ffordd hi. Wedi’i chreu gan awdur Schitt’s Creek a enillodd wobr Emmy, mae’r sioe gerdd ddoniol yma yn troi sgript y stori gariad fwyaf erioed ar ei phen ac yn gofyn beth fyddai’n digwydd nesaf pe na bai Juliet wedi rhoi pen ar y cwbl oherwydd Romeo?
The Lion, The Witch and The Wardrobe
11 – 15 Chwefror 2025
Gwyliwch y nofel boblogaidd The Lion, the Witch and the Wardrobe yn dod yn fyw ar y llwyfan yn y cynhyrchiad trawiadol yma sy’n siŵr o gyfareddu pobl o bob oed.
swan lake
22 – 26 Ebrill 2025
Gwnaeth ailddychmygiad mentrus a beiddgar Matthew Bourne o gampwaith Tchaikovsky greu cyffro pan agorodd bron i 30 mlynedd yn ôl. Mae bellach wedi dod yn un o’r cynyrchiadau theatr dawns fwyaf llwyddiannus erioed, gan greu cynulleidfaoedd newydd ac ysbrydoli cenedlaethau o ddawnswyr ifanc.
An Inspector Calls
18 – 22 Chwefror 2025
Mae cynhyrchiad arobryn y National Theatre gan Stephen Daldry o ddrama gyffrous JB Priestley yn dychwelyd ar ôl taith lwyddiannus a werthodd allan yn 2022.
Hamilton
26 Tachwedd 2024 – 25 Ionawr 2025
Mae Hamilton, ffenomenon diwylliannol arobryn Lin Manuel Miranda, yn teithio’r DU am y tro cyntaf erioed. Enillydd 11 o Wobrau Tony gan gynnwys y Sioe Gerdd Orau, 7 Gwobr Olivier, Gwobr Pulitzer 2016 ar gyfer Drama a Gwobr Grammy 2016 ar gyfer yr Albwm Theatr Gerdd Gorau.
CHITTY CHITTY BANG BANG
15 – 19 Ebrill 2025
Mae’r sioe gerdd arobryn a chyfareddol yma yn llawn caneuon bythgofiadwy gan y brodyr Sherman gan gynnwys Toot Sweets, Hushabye Mountain, Truly Scrumptious ac wrth gwrs y gân a gafodd ei henwebu am un o wobrau’r Academi, Chitty Chitty Bang Bang. Cynhyrchiad newydd sbon o’r ffefryn teuluol yma gyda Liam Fox (Emmerdale) fel Grandpa Potts.
Ghost The Musical
4 – 8 March 2025
Mae’r llwyddiant rhyngwladol yn dychwelyd i’r llwyfan, gyda Unchained Melody gan The Righteous Brothers a llawer o ganeuon eraill bendigedig wedi’u cyd-ysgrifennu gan Dave Stewart o Eurythmics.
nye
22 – 30 Awst 2025
Mae Michael Sheen (Good Omens) yn dychwelyd i chwarae Nye Bevan yn y ddrama yma sy’n ddatganiad dewr a gwerthfawr am y GIG (★★★★ Telegraph). Wedi’i hysgrifennu gan Tim Price (Teh Internet is Serious Business) a'i chyfarwyddo’n ddisglair (★★★★ Times) gan Rufus Norris (Small Island), mae’r dathliad yma o fywyd a gwaddol y dyn a drawsnewidiodd y wladwriaeth les yn dychwelyd i Ganolfan Mileniwm Cymru ar ôl gwerthu pob tocyn yn 2024.
rhywbeth arall?
Mae ein Tystysgrifau Rhodd yn ddilys am 18 mis a gellir eu defnyddio ar gyfer unrhyw sioe neu yn ein bariau theatr. Neu, i bobl sy’n dod i’r theatr yn aml, cymerwch olwg ar ein cynlluniau aelodaeth. Maen nhw’n cynnig manteision gwych drwy’r flwyddyn fel cyfnodau archebu â blaenoriaeth, gostyngiad o 20% yn ein bariau theatr a Caffi, cynigion arbennig ar docynnau a diweddariadau rheolaidd drwy e-bost. Os ydych chi’n chwilio am rywbeth mwy arbennig, mae enwi sedd yn ein hawditoriwm eiconig yn ffordd unigryw a hirdymor o fynegi eich cariad, dangos eich edmygedd neu ddathlu bywyd.
NUTCRACKER (the alternative cabaret)
3 – 31 Rhagfyr 2024
Croeso i Le Crack – y clwb cabaret salw allwch chi ddim peidio â’i garu.
Cropiwch o dan y waliau a sgrialwch i mewn ar gyfer soiree o fwrlésg deniadol, perfformiadau awyr beiddgar, gwyrni plygu rhywedd a band tŷ a fydd yn gwneud i chi wichian mewn pleser. Wedi’i gyflwyno gan eich penarglwydd tanddaearol, llais y fermin – y Rat King!
Mentrwch i mewn os ydych chi’n meiddio. Dewch, rhowch eich teganau i lawr ac ymunwch â’r creaduriaid rhyfedd yng nghuddfan y Rat King...